Cyrsiau Rhagarweiniol neu Sylfaen
Mae nifer o gyrsiau rhagarweiniol ar gael i fyfyrwyr nad oes ganddyn nhw’r cymwysterau Safon Uwch/UG priodol i ddechrau blwyddyn gyntaf cynllun gradd.
Nid oes cyrsiau ar gael ar gael sy’n dechrau yn 2017.
Os hoffech chi wneud rhaglen gradd sy’n cynnwys Blwyddyn Ragarweiniol neu Sylfaen, dylech chi wneud cais drwy UCAS.
Bydd gofyn ichi ddangos i'r Tiwtor Derbyn eich bod yn barod i lwyddo mewn rhaglen gradd.
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad eich dewis raglen astudio, cysylltwch â Thiwtor Derbyn eich ysgol academaidd.
Nid anelir y Flwyddyn Ragarweiniol at fyfyrwyr na chyrhaeddodd y graddau Safon Uwch y gofynnwyd amdanyn nhw.
Y Ganolfan Astudiaethau Rhyngwladol
Mae'r Ganolfan Astudiaethau Rhyngwladol yn cynnig ystod o raglenni sylfaen a blwyddyn un i fyfyrwyr rhyngwladol a luniwyd yn benodol ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol sy’n dymuno symud ymlaen i astudio ein cyrsiau.
Ffyrdd amgen o gael mynediad i'n graddau
Mae rhaglenni llwybr yn opsiwn arall yn lle cymwysterau Safon Uwch a mynediad. Yn aml, anelir y rhaglenni at ddysgwyr sy'n oedolion neu'r rheini sy'n dychwelyd i fyd addysg, gan eu helpu i bontio unrhyw fylchau o ran cymwysterau neu brofiad cyn dechrau eu gradd.
Rydyn ni wedi datblygu nifer o lwybrau at radd israddedig sy’n cael eu haddysgu’n rhan-amser gyda’r nos ac ar benwythnosau mewn lleoliad cyfeillgar a hamddenol.
Peidiwch â cholli allan. Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf ac i wybod pa bryd mae’n Diwrnodau Agored.