Ysgol y Gymraeg
Am dros ganrif mae Ysgol y Gymraeg wedi cyfrannu'n helaeth i fywyd Cymru ac wedi bod yn gartref ac yn feithrinfa i ysgolheigion a llenorion amlwg. Rydym yn Ysgol fywiog, llewyrchus a chyfeillgar, sydd wedi ymrywmo i safonau dysgu ac addysgu uchel.
Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.