Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth
Mae’r Ysgol Cynllunio a Daearyddiaeth yn ganolfan ymchwil o fri a rhagoriaeth dysgu yn y meysydd o Ddaearyddiaeth, cynllunio a dadansoddeg gofodol.
Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.