Mae Dr Ana Ros Camacho, Darlithydd yn yr Ysgol Mathemateg, wedi cael ei chydnabod am ei chyfraniad at wella profiad y myfyrwyr, a hynny â’r wobr Hyrwyddwr Materion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr, yn ddiweddar.
Mae Consortiwm Canolbarth y De yn cyhoeddi prawf darllen newydd i blant blynyddoedd 1 i 11 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Datblygwyd y prawf gan academyddion Prifysgol Caerdydd.
Mae’r Ysgol Mathemateg wedi mwynhau llwyddiant yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) gyda 98% o’n cyflwyniad ar y cyfan yn cael ei ystyried yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.
Penodwyd Dr Jonathan Gillard i'r Bwrdd Cynghori ar gyfer Datganiad Meincnodi Mathemateg, Ystadegau ac Ymchwil Weithredol yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA)
Researchers at the School of Mathematics are developing mathematical models that assess the transmission of COVID-19 in indoor spaces, and how this is affected by ventilation, masks and antiviral technologies.