Pontio Hafaliadau Differol Rhannol a Llif Geometrig: Ysgol Ymchwil LMS-HIMR
Ymunwch â'n hysgol ymchwil i ddysgu am agweddau hafaliadau differol rhannol (PDE) llifoedd geometrig.
Dyddiad: 22- 26 Gorffennaf 2024
Lleoliad: Adeilad Abacws, Ffordd Senghennydd, Caerdydd, CF24 4AG, Cymru
Trosolwg o'r digwyddiad
Mae maes llifoedd geometrig ar y groesffordd rhwng hafaliadau differol rhannol (PDE), geometreg wahaniaethol a geometreg amgrwm. Datrysodd prototeipiau amlwg fel llif Ricci ddyfaliad Poincaré ond mae angen theori PDE uwch y tu hwnt i gyrsiau israddedig. Bydd yr ysgol hon yn gwneud yr agweddau PDE technegol ar lifoedd geometrig yn hygyrch trwy eu cymhwyso i lifoedd crymedd a geometreg.
Pwy ddylai wneud cais
Mae'r ysgol yn addas ar gyfer myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa mewn PDEs neu geometreg wahaniaethol.
Sut i wneud cais
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, bydd angen i chi gyflwyno’r dogfennau canlynol:
- Llenwch y ffurflen gais
- Darparu llythyr eglurhaol. Esboniwch y rhesymau dros eich diddordeb yn yr ysgol haf a'i pherthynas â'ch gwaith
- CV cyfredol, gan gynnwys cymwysterau academaidd
- Tystiolaeth o ansawdd academaidd, er enghraifft trawsysgrifiad o gofnodion
- Un llythyr o argymhelliad gan ganolwr, er enghraifft eich goruchwyliwr, neu un o'ch darlithwyr, ac ati
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 7 Ebrill 2024. Dylid anfon yr holl ddogfennau at scheuer@math.uni-frankfurt.de
Pwysig: Mae gennych gyfle i nodi a hoffech wneud cais am gymorth ariannol yn y ffurflen gais. Os byddwch yn llwyddiannus, gofynnir i chi ddarparu manylion sy'n dangos eich angen am gymorth ariannol.
Os ydych yn ymgeiswyr rhyngwladol, sicrhewch eich bod yn ymgyfarwyddo a’r gofynion fisa sy’n berthnasol i chi i ddod i’r DU a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais am eich fisa cyn gynted â phosibl, os yw'n berthnasol. Gallwn ddarparu datganiadau ategol, ar gais.
Unrhyw gwestiynau?
Cysylltwch â'r trefnwyr Prachi Sahjwani neu Julian Scheuer