Diwrnod Anturiaethau Mathemateg
Mae'n bleser gennym eich gwahodd i Ddiwrnod Mathamateg Ddiwydiannol yn adeilad Sbarc/Spark, calon campws arloesi Prifysgol Caerdydd.
Dyddiad ac amser: 9.30-13.30 ar 30 Tachwedd 2023.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu am yr ymchwil effeithiol sy'n digwydd yn ein Hysgol ac mewn rhwydweithio ag academyddion, myfyrwyr a chwmnïau, yna cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen Eventbrite isod. Bydd modd cofrestru tan 23 Tachwedd. Ein nod yw cael tua 100 o gyfranogwyr o'r byd academaidd a diwydiant. Gellir gweld rhaglen lawn y digwyddiad isod.
Edrychwn ymlaen yn fawr at eich gweld ar y 30 Tachwedd. Dywedwch wrthym os ydych chi eisiau cyfieithydd Cymraeg.
Atodlen
9:30–10:00 | Cofrestru a ll uniaeth |
10:00–10:20 | Croeso a chyflwyniad Dr Jonathan Thompson, Pennaeth yr Ysgol Dr Katerina Kaouri, Cyfarwyddwr Effaith ac Ymgysylltu |
10:20–11:20 | Enghreifftiau o gydweithio llwyddiannus gyda'r Ysgol Mathemateg Trish Chalk Cynorthwyo Cyfarwyddwr ABCi a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Mewnwelediad a Chynllunio Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Kevin Parry Prif Swyddog Data, Dŵr Cymru Welsh Water Dŵr Cymru Welsh Water ac Ysgol Fathemateg Prifysgol Caerdydd Dr Yuri Staraselski Prif Swyddog Technegol, Crimtan Modelu Ystadegol ar gyfer Gwella Effeithlonrwydd Hysbysebu Ar-lein: Trafodaeth banel a sesiwn Holi ac Ateb Cymedrolwyd gan yr Athro Paul Harper |
11:20–11:40 | Lluniaeth a rhwydweithio |
11:40–12:20 12:20-12:30 | Ymchwil mathemateg gymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd Yr Athro Tim Phillips, Pennaeth y grŵp Mathemateg Gymhwysol a Chyfrifiadurol Yr Athro Maggie Chen, Pennaeth y grŵp Mathemateg Ariannol Yr Athro Jon Gillard, Pennaeth y Grŵp Ystadegau Cadeirydd: Yr Athro Owen Jones Sgyrsiau mellt ar ymchwil effeithiol Yr Athro Rhyd Lewis, yr Athro Owen Jones, Dr Geraint Palmer a Dr Katerina Kaouri |
12:30–13:30 | Cinio, rhwydweithio ac arddangosfa o bosteri |
Awn Amdani! (11-15 oed)
10:00-10:45, Abacws 0.04, (11-15 oed), gêm
Lois Mullins
Dewch i chwarae gêm fwrdd Mathemateg newydd a ddatblygwyd gan griw Mathemateg Caerdydd
Gêm Newid Shannon (9-15 oed)
11:00-11:45, Abacws 0.04, (oed 9-15), gêm
Michela Corradini
Ydy gwneud y cam cyntaf yn bwysig? Mathemateg sydd â'r ateb.
Y gyfrinach y tu ôl i ennill o hyd (11-16 oed)
11:00-11:45, Abacws 0.34, (11-16 oed), gêm
Layla Sadeghi Namaghi
Strategaethau mathemategol cŵl mewn gemau dau chwaraewr gyda phawb yn ennill, a neb yn colli.
Gwneud siapiau 3D (4-8 oed)
12:00-12:45, Abacws 0.04, (4-8 oed), gweithdy
Dr Yasemin Sengul Tezel
Pwy sydd ddim yn hoffi celf a chrefft? Beth am wneud gwrthrychau tri dimensiwn a'u lliwio.
Lliwiau llachar o bob lliw a llun (11-99 oed)
12:00-12:45, Abacws 0.01, (11-99 oed), cyflwyniad
Dr Katerina Kaouri
Dysgwch am fathemateg hediadau uwchsonig a gwrando ar lawer o ffrwydradau sonig mawr.
Trylediad y Meirw (11-99 oed)
13:00-13:45, Abacws 0.01, (11-99 oed), cyflwyniad
Dr Thomas Woolley
Sut ydych chi'n goroesi mewn apocalyps sombi? Gall modelau mathemategol ddod i'r adwy.
O Florence Nightingale i Al Amazon (yn Gymraeg) (11-99 oed)
13:00-13:45, Abacws 0.04, (11-99 oed), cyflwyniad
Dr Geraint Palmer
Sut mae data'n cael ei gasglu, ei ddadansoddi a'i ddelweddu, yn y gorffennol a heddiw? Ble fyddwn ni yn y dyfodol gydag Al?
Maths ar Waith (11-18 oed)
14:00-14:45, Abacws 0.34, (11-18 oed), cytlwyniad rhyngweithiol
Dr Thomas Barker
Wedi eich hysbrydoli gan y fideos a ddangosir yn y cyntedd? Plymiwch yn ddyfnach i'r mathemateg sydd y tu ôl i fideos ac animeiddiadau.
Celwyddau Melltigedig ac Ystadegau (11-99 oed)
14:00-14:45, Abacws 0.01, (11-99 oed), cyflwyniad
Dr Rhyd Lewis
Yn aml mae papurau newydd, gwleidyddion a chwmnïau hysbysebu yn defnyddio ystadegau mewn ffyrdd camarweiniol. Sut gallwch chi sylwi ar hyn?
Arlunio, lliwio, a datod (oedrannau 3+)
15:00-15:45, Abacws 0.34, (oedrannau 3+), gweithdy
Dr Rhyd Lewis
Darlunio, lliwio a datod: o'r "her pedwar lliw" i'r gêm "datod"!
Rapio Acsiomau Ewclidaidd (11-18 oed)
15:00-15:20, Abacws, 0.01, (11-18 oed), fideo a chyflwyniad
Stylianos Koutsoullis
Pwy a ŵyr fod ewclid a rap yn mynd law yn llaw?
Feirysau yn yr aer (15-99 oed)
15.25-15.45, Abacws, 0.01 (15-99 oed), cyflwyniad
Dr Katerina Kaouri
Sut y gall modelau mathemategol ragweld a ydym yn cael ein heintio gan feirysau yn yr aer mewn ystafell?
Menywod ym myd mathemateg (10-99 oed)
16:00-16:45, Abacws 0.01, (10-99 oed), cyflwyniad theatrig
Menywod mewn Mathemateg a Chymdeithas Cyfrifiadureg
Hoffech chi ddod i adnabod mathemategwyr benywaidd enwog a'u llwyddiannau?
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad neu os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Thîm Ymgysylltu’r Ysgol Mathemateg: