Diwrnodau i ddeiliaid cynigion
Mae Diwrnodau i Ddeiliaid Cynigion yn gyfle i chi weld yr Ysgol, y Brifysgol a'r ddinas drosoch eich hun.
Mae derbyn cynnig gan Brifysgol yn ddewis mawr, ac er mwyn gwneud penderfyniad, mae cael yr holl wybodaeth sydd ar gael, yn rhywbeth y bydd ei angen arnoch. Mae Diwrnodau i Ddeiliaid Cynigion wedi’u dylunio i roi’r cyfle i chi gael gwybod rhagor am astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Gwahoddir pob ymgeisydd a chanddynt gynnig i astudio gradd Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd, i fod yn bresennol. Cewch y cyfle i gwrdd â staff a myfyrwyr presennol Yr Ysgol Mathemateg er mwyn cael gwybod sut beth yw bod yn fyfyriwr gyda ni.
Beth i'w ddisgwyl
Fel arfer ar Ddiwrnodau i Ddeiliaid Cynigion, ceir cyflwyniadau’n rhoi gwybodaeth ynghylch y gwahanol raddau Mathemateg rydym yn eu cynnig, gyrfaoedd, byw yng Nghaerdydd a llety. Bydd cyfle i weld y cyfleusterau yn yr Ysgol Mathemateg ac Undeb y Myfyrwyr. Hefyd ceir panel rhieni lle gall rhieni ofyn cwestiynau i'r Tiwtor Derbyn ac i fyfyrwyr presennol ynghylch unrhyw agwedd ar fywyd prifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Caroline Frame yn mathematics@caerdydd.ac.uk.