Ymgysylltu’n rhyngwladol

Mae ein Hysgol yn gymuned ddeinamig a chynhwysol sydd â meddylfryd byd-eang.
Mae gennyn ni dros 100 o fyfyrwyr o fwy na 30 o wledydd ac mae 30% o'n staff yn tarddu o gefndiroedd rhyngwladol.
Rydyn ni’n cynnal partneriaethau academaidd cryf gyda nifer o brifysgolion mawreddog ledled y byd. Ymhlith y rhain y mae:
- Prifysgol Normal Beijing, Tsieina
- Prifysgol Dechnoleg Beijing, Tsieina
- Prifysgol Technolegau Mwyngloddio Tsieina, Tsieina
- Prifysgol Xiamen, Tsieina
- Sefydliad Technoleg Vellore, India
- Prifysgol Xiamen, Maleisia
Mae'r partneriaethau hyn yn galluogi myfyrwyr yn y sefydliadau rydyn ni’n cydweithio â nhw i gyrchu raglenni israddedig ac ôl-raddedig yr Ysgol. Maen nhw’n hyrwyddo dealltwriaeth drawsddiwylliannol sy'n helpu myfyrwyr lleol i ehangu eu safbwynt byd-eang a meithrin partneriaethau a chyfleoedd rhyngwladol.
Ymchwil ryngwladol
Mae gan ein hymchwil gyrhaeddiad rhyngwladol gyda’n staff yn gweithio ar y cyd ag ymchwilwyr ledled y byd ar ystod eang o bynciau mathemategol ac yn cyhoeddi gyda’i gilydd mewn cyfnodolion o’r radd flaenaf. Mae aelodau ein cyfadran yn trefnu ac yn cymryd rhan mewn nifer o gynadleddau, gweithdai a digwyddiadau gwyddonol rhyngwladol eraill bob blwyddyn.
Drwy ein hymchwil, rydyn ni’n mynd i’r afael â sawl her gymdeithasol fyd-eang a hollbwysig.
Mae ein tîm Modelu Gofal Iechyd yn y grŵp Ymchwil Weithredol wedi gweithio ar wella canlyniadau cleifion wrth leihau costau gofal iechyd, gan gymhwyso’r gwaith i’r Almaen yn ogystal â’r DU. Maen nhw hefyd wedi bod yn gweithio'n agos gyda nifer o bartneriaid yn Indonesia, gan ganolbwyntio'n arbennig ar bynciau modelu gofal iechyd gan gynnwys helpu i ddylunio gwasanaeth ambiwlans cydgysylltiedig newydd rhad ac am ddim i'w ddefnyddio sy'n helpu i achub bywydau ledled Jakarta. Yn ogystal, maen nhw wedi gweithio’n agos ag asiantaethau'r llywodraeth a darparwyr gofal iechyd a chyda sawl prifysgol, gan gynnwys Bakri (Jakarta), Sefydliad Technoleg Bandung (ITB), a'r Universitas Negeri Malang. Mae gweithgareddau hyd yma wedi cynnwys addysgu ar ddulliau stocastig, efelychu a rhagweld a hwyluso symudedd staff a myfyrwyr rhwng y DU ac Indonesia.
Ymhlith eu prosiectau eraill sy'n cael effaith y mae ehangu cyrhaeddiad codio Python yn Affrica a rhagweld tswnamis ledled y byd gan ddefnyddio AI, ar y cyd ag UNESCO.
Cymdeithasau a sefydliadau rhyngwladol
Cymdeithas er Mathemateg Ddiwydiannol a Chynhwysol
Mae ein Hysgol yn cynnal cangen fyfyrwyr SIAM-IMA. Cafodd hwn ei ffurfio yn 2012 dan nawdd y Gymdeithas Mathemateg Ddiwydiannol a Chymhwysol ac mae hefyd yn cael ei chefnogi gan y Sefydliad Mathemateg a'i Gymwysiadau. Mae'n cynnwys myfyrwyr ac aelodau cyfadran o bob rhan o Brifysgol Caerdydd sydd â diddordeb mewn mathemateg neu gyfrifiadura gwyddonol a'u cymwysiadau yn y byd go iawn. Mae holl aelodau’r cangen sy’n fyfyrwyr yn gymwys i gael aelodaeth yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr yn SIAM.
Consortiwm Ewropeaidd ar gyfer Mathemateg mewn Diwydiant
Rydyn ni wedi bod yn aelodau sefydliadol o’r Consortiwm Ewropeaidd ar gyfer Mathemateg mewn Diwydiant (ECMI) ers 2019. Mae ECMI yn gonsortiwm o sefydliadau a chwmnïau academaidd sy'n gweithredu ar y cyd i hyrwyddo a chefnogi'r defnydd o fodelu, efelychu ac optimeiddio mathemategol mewn unrhyw weithgaredd o bwysigrwydd cymdeithasol neu economaidd, ar raddfa Ewropeaidd. Maent hefyd yn anelu at addysgu mathemategwyr diwydiannol i ateb y galw cynyddol am arbenigwyr o'r fath. Mae Dr Katerina Kaouri yn aelod o Gyngor ECMI, a hithau’n un o ddau gynrychiolydd academaidd sydd wedi'u lleoli mewn sefydliadau yn y DU.
Cysylltu
Os hoffech fwy o wybodaeth am ymgysylltu rhyngwladol neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Ymunwch â chymuned fywiog ein myfyrwyr rhyngwladol. Dysgwch sut mae cyflwyno cais i astudio yn ein prifddinas gosmopolitaidd.