Ymgysylltu â Diwydiant

Mae gennyn ni gysylltiadau cryf â phartneriaid diwydiannol allweddol ar draws ein gweithgareddau ymchwil ac addysgu.
Rydyn ni’n gweithio gydag amrywiaeth o gwmnïau a sefydliadau allanol gan gynnwys Admiral, AIRBUS, BT, General Electric, KPMG, Nationwide, Rolls Royce a Dŵr Cymru.
Mae'r cyfleoedd i gydweithio â'n staff a'n myfyrwyr yn cynnwys:
- Traethawd hir MSc (dim cost i'r partner allanol).
- Prosiectau PhD a ariennir ar y cyd
- Prosiectau ymchwil a ariennir ar y cyd sy'n ymateb i angen diwydiant (e.e. Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth)
- Prosiectau ymchwil a ariennir ar ôl cynnig llwyddiannus ar y cyd i ariannwr (e.e. UKRI neu Innovate UK)
- Lleoliadau ar gyfer myfyrwyr israddedig
- Cyflwyniadau cyfres Work@One: darpar gyflogwyr yn rhoi cyflwyniadau ar gyfleoedd gyrfa i'n myfyrwyr
- Ffair Gyrfaoedd ym maes Mathemateg
- Gweithdai datrys problemau
- Secondiadau staff gyda byd diwydiant neu ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae enghreifftiau o'n hymchwil effeithiol gyda byd diwydiant yn cynnwys:
- Cydweithio â'r GIG i ddefnyddio mathemateg i achub bywydau drwy leihau amseroedd aros mewn ysbytai (Yr Athro Paul Harper, yr Athro Daniel Gartner)
- Gweithio gydag arbenigwyr blaenllaw hysbysebu ar y rhyngrwyd ar wella effeithlonrwydd hysbysebu ar-lein (Yr Athro Anatoly Zhigljavsky, Dr Andrei Pepelyshev)
- Partneriaeth strategol gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol gyda phrosiectau ymchwil a ariennir ar y cyd (Yr Athro Jonathan Gillard)
- System rhybudd cynnar ar gyfer tswnamis, a gymeradwywyd gan UNESCO (Dr Usama Kadri)
- Modelu trosglwyddo firaol yn yr aer mewn mannau dan do, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru (Dr Katerina Kaouri, Dr Thomas Woolley)
Dysgwch am ein hamrywiaeth o effaith ymchwil astudiaethau achos.
Y Bwrdd Cynghori Diwydiannol
Caiff ein partneriaeth â byd diwydiant ei chryfhau drwy ein Bwrdd Cynghori Diwydiannol (IAB), sy'n cynnwys arweinwyr dylanwadol ym myd diwydiant ac arbenigwyr mewn cyfnewid gwybodaeth. Mae'r aelodau'n cynnig arweiniad gwerthfawr ar sawl menter ymchwil, arloesi ac addysgu, wrth hefyd helpu i wella cyflogadwyedd ein graddedigion.
Diwrnod Mathemateg ym myd Diwydiant
Cynhelir ein Diwrnod Mathemateg ym myd Diwydiant (MID), digwyddiad blynyddol gyda diwydiant, ym mis Tachwedd. Cyfle gwych i fyd diwydiant a'r byd academaidd gyfnewid gwybodaeth am heriau go iawn ac am fathemateg newydd ac i lansio mentrau cydweithredol newydd. Rhagor o wybodaeth am MID23 a MID24.
Cysylltu
Rydym yn croesawu partneriaid allanol i gydweithio â ni. Cysylltwch â'r Tîm Effaith ac Ymgysylltu yn mathsengagement@cardiff.ac.uk.
Dylid cyfeirio ymholiadau myfyrwyr sy'n ymwneud â phrosiectau a lleoliadau diwydiant at y Swyddfa Ysgolion Mathemateg yn schoolofficemaths@cardiff.ac.uk.