Bwrdd cynghori’r diwydiant
Ffurfiwyd ein Bwrdd Cynghori’r Diwydiant yn 2023 i sicrhau bod ein cwricwlwm yn parhau i fod yn berthnasol a’i fod yn cyd-fynd ag anghenion a thueddiadau presennol y diwydiant.
Mae'r bwrdd hefyd yn creu partneriaethau a chyfleoedd rhwydweithio sydd o fudd i'r myfyrwyr a'r ysgol, trwy fynediad i arbenigedd ac adnoddau byd go iawn.
Aelodau'r Bwrdd
Mr Mark Ashenden
Uwch-dechnegydd Diogelwch a Dibynadwyedd a Rheolwr Galluogrwydd, Rolls-Royce plc.
Mae Mark wedi gweithio gyda Rolls-Royce ers dros 30 mlynedd gyda thua 25 o'r rheini ym maes diogelwch a dibynadwyedd. Mae cymwysterau academaidd yn cynnwys gradd mewn Ffiseg (Coleg Imperialaidd) ac MSc mewn Effeithiolrwydd Gweithredu Systemau (Prifysgol Caerwysg). Mae Mark yn Beiriannydd siartredig ac yn Gymrawd o'r Gymdeithas Awyrenegol Frenhinol a'r Gymdeithas Diogelwch a Dibynadwyedd.
Dr Stephen Casey PhD FIMA
Prif Ymgynghorydd (Caffael, Gwerthuso a Dylunio), Commerce Decisions Ltd
Ac yntau’n gyn-fyfyriwr yn yr Ysgol Mathemateg (BSc/PhD), mae Stephen yn rhoi cyngor arfer gorau i brosiectau mawr yn y sector cyhoeddus ar ddylunio a gweithredu elfennau gwerthuso eu caffaeliadau gan gynnwys datblygu meini prawf a phwysoli, cyfaddawdu gwerth am arian a gwerthuso costau. Mae ei ddewis o draethawd ymchwil (Meta-Heuristics ar gyfer Problemau Amserlennu Aml-amcan) yn dystiolaeth o'i ddiddordeb brwd mewn Ymchwil Weithredol.
Dr Stephanie Howarth
Prif Ystadegydd, Llywodraeth Cymru
Mae Stephanie yn gyfrifol am gynhyrchu ystadegau swyddogol a gweithredu safonau am ansawdd data ystadegol, dibynadwyedd a gwerth cyhoeddus. Hefyd, fel Cyd-gyfarwyddwr Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, mae’n canolbwyntio ar ddefnyddio data gweinyddol i lunio penderfyniadau polisi. Mae profiad blaenorol yn cynnwys gwaith yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Senedd Cymru a BBC News.
Dr Joanna Jordan
Arbenigwr cyfnewid gwybodaeth mathemateg llawrydd
Mae Joanna yn un o Uwch-hyrwyddwyr KE Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth y DU ar gyfer Gwyddorau Mathemategol, yn Weithiwr Proffesiynol Trosglwyddo Technoleg (RTTP) ac yn aelod o Dîm Cynghori Strategol EPSRC ar gyfer Gwyddorau Mathemategol.
Mr Luke Maggs
Prif Ymchwilydd Gweithredol, Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Luke yn arweinydd strategol ar gyfer OR gan ddefnyddio dadansoddeg uwch, modelu, strwythuro problemau, efelychu, optimeiddio a gwyddor data i bennu datrysiadau. Mae sganio’r gorwel a methodolegau’r dyfodol yn allweddol i’w rôl, yn ogystal â sicrhau dull gweithredu ar sail tystiolaeth o ymdrin â chylch gwaith eang Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dr Gueorgu Mihaylov
Prif Wyddonydd Data (Cyfarwyddwr AI), Haleon
Mae Gueorgu hefyd yn Gymrawd Ymchwil Gwadd yn Adran Mathemateg King's College Llundain ac yn aelod o Dîm Cynghori Strategol EPSRC ar gyfer Gwyddorau Mathemategol. Mae gan ymchwil Gueorgu rychwant eang sy'n cwmpasu dysgu amlochrog, dysgu dwfn geometrig, modelu/optimeiddio systemau cymhleth a chymwysiadau diwydiannol AI.
Ms Angela Smith
Peiriannydd Ymchwil Seilwaith Gwybodaeth Hanfodol a Phennaeth Arloesedd a Sgowtio Seiberddiogelwch, Airbus
A hithau’n raddedig o Brifysgol Cymru, mae Angela heddiw yn goruchwylio rhwydweithiau o dimau sy’n cydweithio i ddatblygu datrysiadau seiberddiogelwch. Mae wedi treulio ei gyrfa’n bennaf yn y Diwydiant Amddiffyn ynghyd â phrofiad ar draws cyfathrebu radio, rheoli rhwydwaith, storio data, rheoli gwybodaeth yn ddiogel a datblygu meddalwedd.
Dr Izabela Spernaes
Pennaeth Modelu Mathemategol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Mae Izabela yn fodelwr mathemategol sy'n frwd dros ddeall a dylunio systemau gofal iechyd. Ers ei PhD mewn ymchwil weithredol (2013), mae Izabel wedi gweithio ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i wella canlyniadau cleifion a darpariaeth gwasanaethau. Ei ffocws yw codi ymwybyddiaeth o Ymchwil Weithredol wrth ddylunio a chyflwyno rhaglenni hyfforddi dadansoddol a modelu ar yr un pryd.
Mr James Watson
Uwch Arbenigwr Proses, Tata Steel UK
Ar ôl dysgu Mathemateg, symudodd James i'r diwydiannau modurol ac awyrennau. Mae ganddo gyfoeth o brofiad o greu modelau Efelychu Digwyddiadau Arwahanol a modelau optimeiddio ad hoc o brosesau a gweithrediadau diwydiannol trwm.
Mr Rhodri Charles
Pennaeth Prisio Moduron y DU, Admiral
Ymunodd Rhodri ag Admiral ym 1999 fel Dadansoddwr Prisiau. Daeth yn Brif Ddadansoddwr Prisiau yn 2000 ac yna’n Bennaeth Prisio Moduron y DU yn 2006. Y tu allan i Admiral, mae'n aelod o Fwrdd yr MIB a Bwrdd yr IFB. Graddiodd Rhodri o Brifysgol Caerdydd gyda gradd mewn Mathemateg ym 1993 ac yna gweithiodd i Zurich Municipal am 3 blynedd cyn ymuno ag Admiral.
Dr C Matthew Jones
Pennaeth Gwyddor Penderfynu Risg ac Arloesi Dadansoddol, Cymdeithas Adeiladu Nationwide
Mae Matthew yn arwain tîm mawr o wyddonwyr data a modelwyr risg sy’n datblygu offer i nodi risg mewn Credyd, Twyll, Gwyngalchu Arian a Chasgliadau. Enillodd ei dîm wobr clodfawr Tîm Risg a Modelu’r Flwyddyn yng Ngwobrau Credit Strategy y diwydiant cyfan yn 2021/22 a 2019/20, yn dilyn ymlaen o’u gwobr Arloesedd mewn Credyd blaenorol am waith sy’n arwain y diwydiant ym maes Dysgu Peiriannau yn 2018/19.