Ewch i’r prif gynnwys

Grŵp ymchwil myfyrwyr SIAM-IMA

Ein nod yw ennyn diddordeb mewn mathemateg gymhwysol a gwyddoniaeth gyfrifiadurol drwy roi cyfleoedd i fyfyrwyr.

Cymdeithas Mathemateg Ddiwydiannol a Chymhwysol (SIAM) a Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau (IMA) sydd wedi creu Grŵp Ymchwil Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd SIAM ac IMA. Ymhlith yr aelodau mae myfyrwyr ôl-raddedig ac aelodau staff o bob rhan o'r Brifysgol sydd â diddordeb mewn mathemateg neu gyfrifiadura gwyddonol a chymhwyso’r rhain yn y byd go iawn. Ni yw'r grŵp ymchwil cyntaf o fyfyrwyr SIAM-IMA i gael ei greu yng Nghymru.

Amcanion

Mae ein hamcanion yn gyson ag amcanion SIAM ac IMA:

  • Hyrwyddo'r gwaith o gymhwyso mathemateg a thechnegau cyfrifiadurol i broblemau o ddiddordeb ym maes gwyddoniaeth a diwydiant.
  • Hyrwyddo ymchwil sylfaenol ym maes mathemateg gymhwysol a chyfrifiadura gwyddonol, gan arwain at ddulliau a thechnegau newydd fydd yn ddefnyddiol i fyd diwydiant a gwyddoniaeth.
  • Peri bod ymchwilwyr a myfyrwyr o bob rhan o'r Brifysgol ac aelodau'r Brifysgol a byd diwydiant yn cyfathrebu â’i gilydd yn fwy effeithiol drwy greu fforwm i gyfnewid syniadau gwyddonol mewn cyd-destun cefnogol sy’n ysbrydoli’r aelodau.

Gweithgareddau

Ymhlith ein gweithgareddau mae:

  • seminarau ymchwil iau
  • gweithdai rhyngddisgyblaethol
  • cystadlaethau i fyfyrwyr
  • gwobrau
  • adroddiadau technegol
  • darlithoedd gwadd
  • digwyddiadau cymdeithasol
  • cymryd rhan yng nghyfarfodydd SIAM ac IMA
  • gweithgareddau eraill gan SIAM neu IMA

Pwyllgor

Pwyllgor o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy’n trefnu’r grŵp ymchwil gyda chymorth yr aelodau o’r staff Angela Mihai a Tim Phillips. Ar y pwyllgor presennol y mae:

Y Llywydd

Yr Is-lywydd

Yr Ysgrifennydd

Picture of Aric Fowler

Aric Fowler

Myfyriwr Cyswllt Addysgu a PhD

Email
FowlerAA@caerdydd.ac.uk

Y Trysorydd

Y Gwefeistr

Y Swyddog Cydraddoldeb

Aelodau israddedig

Steffan Jones - jonesss3@caerdydd.ac.uk

Aelodaeth

Mae dod yn aelod o'r grŵp ymchwil yn rhad ac am ddim ac yn agored i unrhyw fyfyriwr ym mlwyddyn olaf gradd BSc neu MMath, ymgeiswyr Meistr a PhD, ymchwilwyr ôl-ddoethurol, ac aelodau o staff Prifysgol Caerdydd sy'n ymwneud â mathemateg neu gyfrifiadura gwyddonol neu sydd â diddordeb yn y rhain a sut i’w cymhwyso.

Ar ben hynny, mae holl aelodau’r grŵp ymchwil sy’n fyfyrwyr yn gymwys i gael aelodaeth yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr yn SIAM. Os hoffech chi ymuno, anfonwch e-bost i siam-ima@caerdydd.ac.uk.

Ewch i'r dudalen hon am y wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau.