Effaith ymchwil yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwyllian
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
We have a longstanding reputation for the impact of our research that regularly informs national policy and practice.
The impact of our research is highly regarded by the media industry, Government, the creative industries, charities, inter disciplinary and international partners.
Highlights
Effaith ymchwil yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwyllian
Mae ein hacademyddion yn helpu newyddiadurwyr i wneud synnwyr o’r gwahanol reolau COVID-19 sydd mewn grym ledled y DU.
Pan darodd COVID-19, gan anfon y DU i gyfnod clo llawn, trodd miliynau ohonom at newyddion wedi’u darlledu er mwyn cael atebion.
Ond i ba raddau y bu i’r ddarpariaeth newyddion honno lwyddo i rannu’r wybodaeth yr oeddem ei hangen? Trodd ein hacademyddion eu sylw’n gyflym at ddadansoddi’r mynydd o straeon.
Fel yr esbonia’r Athro Stephen Cushion sydd wedi’i leoli yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, “Ym mis Mawrth 2020, roeddem yn profi digwyddiad hanesyddol enfawr. Ac yn y funud honno, trodd llawer o bobl at y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (Y BBC), gydag 20 miliwn o wylwyr yn tiwnio i mewn ar gyfer darllediadau rhwydwaith y BBC o gyhoeddiadau Llywodraeth y DU, yn ystod wythnos gyntaf y cyfnod clo.
“Roedd rôl newyddiadurwyr yn hanfodol wrth i bobl geisio gwneud synnwyr o’r datblygiadau diweddaraf. Nid oes amheuaeth bod newyddiadurwyr wedi gweithio’n ddi-baid er mwyn ateb y galw. Er hynny, roedd y newyddion roedden ni’n eu gwylio yn codi cwestiynau ynghylch pa mor effeithiol yr oedd newyddiadurwyr yn gwasanaethu holl wledydd y DU.”
Mae iechyd yn fater datganoledig yn y DU – sy’n golygu bod penderfyniadau a wneir yn Lloegr gan Lywodraeth y DU yn annibynnol i raddau helaeth ar yr hyn y mae llywodraethau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn dewis ei wneud.
“Yn ystod wythnosau cyntaf y pandemig, ni fyddai’r rhan fwyaf o bobl wedi gwybod mai cytundeb rhwng pedair gwlad oedd y cyfnod clo cyntaf,” meddai’r Athro Cushion. “Roedd y darllediadau newyddion o’r cyhoeddiadau cyntaf, pob un, yn canolbwyntio’n bennaf ar y prif weinidog a llywodraeth y DU.
“Wrth i’r wythnosau fynd heibio, ac wrth i bob gwlad yn y DU osod eu rheolau eu hunain, daeth y diffyg dealltwriaeth o ran y pwerau datganoledig hyn, i’r amlwg.
“Aeth pob llywodraeth ati i ddefnyddio dulliau gwahanol. Yr her i newyddiadurwyr oedd, sut i egluro hynny mewn ffordd glir a chryno er mwyn sicrhau bod negeseuon iechyd cyhoeddus sy’n unigryw i bob gwlad benodol, yn cael eu deall gan bob gwyliwr rhaglennu rhwydwaith – rhwydwaith sy’n cynrychioli’r DU gyfan.”
Arweiniad ymarferol
Roedd yr Athro Cushion a’i gydweithwyr mewn sefyllfa dda i archwilio’r materion hyn ar ôl pymtheg mlynedd o ymchwilio i’r rôl y mae darlledwyr yn ei chwarae wrth gyfathrebu datganoli.
Amlygodd eu hastudiaeth o newyddion teledu’r cyfnod clo ddiffyg eglurder ynghylch adrodd am wahanol gyfyngiadau covid ym mhob gwlad. Cyflwynwyd eu canfyddiadau i ymchwiliad ‘Future of Public Service Broadcasting Inquiry’ Adran Ddigidol – Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, Llywodraeth y DU. Fe’u cyflwynwyd hefyd i ymchwiliad Senedd Cymru ym mis Gorffennaf 2020 – ymchwiliad i effaith y pandemig ar newyddiaduraeth a’r cyfryngau lleol.
Ond yn bwysicach efallai, cafodd argraffiadau a chynghorion yr Athro Cushion eu bwydo’n uniongyrchol i ystafelloedd newyddion – drwy gysylltiadau hir sefydlog mae’r tîm, drwy eu gwaith, wedi’u meithrin â golygyddion. Buont yn ymgysylltu â darlledwyr amlycaf y DU yn ystod y pandemig: Newyddion y BBC (BBC News), ITV News, Channel 4 News, Channel 5 News a Sky News.
Er mwyn rhoi’r ddealltwriaeth orau o’r materion hyn i ystafelloedd newyddion oedd ac sydd yn brin o amser, cynhyrchwyd fideos byrion ar gyfer uwch-olygyddion darlledu, gydag argymhellion ar sut y gellid gwella’r adroddiadau.
“Mae newyddiadurwyr yn hynod o brysur, a does ganddyn nhw ddim yr amser a’r adnoddau i dreulio oriau yn edrych yn ôl ar yr hyn maen nhw wedi bod yn gweithio arno,” meddai’r Athro Cushion. “Felly, mae hyn am geisio dod o hyd i ffyrdd creadigol o ymgysylltu a rhannu gwybodaeth.”
“Mae cael perthynas waith hir sefydlog â newyddiadurwyr allweddol wedi caniatáu i’n tîm ymateb yn gyflym i’w hanghenion.
“Roedd ein cysylltiadau hir sefydledig ag ystafelloedd newyddion yn golygu ein bod yn barod i helpu cyn gynted ag y dechreuodd y pandemig – gellid dadlau mai hon yw’r stori fwyaf y mae’r genhedlaeth bresennol hon o newyddiadurwyr wedi gorfod adrodd arni.”
Y BBC dan y chwyddwydr
Roedd llawer o waith yr Athro Cushion cyn y pandemig wedi canolbwyntio ar y BBC – y darparwr mwyaf o ran darlledu newyddion yn y DU.
Ynghyd â’r Athro Justin Lewis, fe’i comisiynwyd gan Ymddiriedolaeth y BBC yn 2015 a 2016 i asesu a oedd BBC News yn adlewyrchu tirwedd polisi nad yw bellach yn San Steffan-ganolog, yn gywir ac yn ddiduedd.
Roedd dadansoddiad y tîm ymchwil o 5,732 o eitemau newyddion yn herio’r rhagdybiaeth bod cywirdeb y ddarpariaeth ddatganoledig yn parhau i wella, a chanfu fod cywirdeb mewn rhai meysydd wedi gostwng ers eu hadolygiad diwethaf yn 2010.
Meddai’r Athro Cushion, “Mae’r BBC wedi dod yn bell iawn o ran sut mae’n cynrychioli’r gwledydd. Yn ddiweddar iawn, darlledwyd Newyddion 10 o’r gloch, yn fyw, o bob un o’r gwledydd dros gyfnod o fis. Mae hyn yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethu’r cynulleidfaoedd hynny. Ond yn ystod gweithrediadau o ddydd i ddydd, pan fyddant yn gweithio i gael stori’n barod i’w darlledu, efallai bod achosion lle gellid bod yn fwy eglur o ran perthnasedd straeon, yn ddatganoledig felly.”
Hefyd, fe adolygodd yr ymchwilwyr ddefnydd y BBC o ystadegau. Bu trafodaeth eang ar draws cyfryngau newyddion o ganlyniad i astudiaeth yr ymchwilwyr, a darparodd yr astudiaeth hefyd wybodaeth ar gyfer adroddiad Ymddiriedolaeth Y BBC, ‘Making Sense of Statistics’, yn 2016.
Arweiniodd yr adroddiad hwn – sy’n cyfeirio at, ac yn dyfynnu o, ymchwil y Brifysgol 42 o weithiau – at ganllawiau golygyddol newydd.
Wrth ddisgrifio dylanwad y BBC yn nhirwedd y cyfryngau, dywed yr Athro Cushion, "Er gwaethaf y newidiadau enfawr yn y ffordd rydym yn defnyddio newyddion a’r dewis sydd ar gael i bobl, mae’r BBC yn dal i fod â chynulleidfa fawr.
“Mae’n cael ei ystyried fel y darparwr newyddion mwyaf dibynadwy a chywir a diduedd ledled y byd; conglfaen darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Mae ganddo ddylanwad ar sefydliadau cyfryngau sydd ar y gweill ac fe’i hystyrir yn ffynhonnell sy’n gallu gwrthsefyll llawer o wybodaeth anghywir.
“Wrth gwrs, o ystyried cyllid cyhoeddus a dylanwad eang y BBC, mae’n aml yn agored i feirniadaeth a chraffu. Ond os cânt eu dal yn atebol drwy ymchwil gadarn, mae’n caniatáu i olygyddion y BBC fyfyrio’n fwy gwrthrychol ar ddilysrwydd beirniadaeth gyhoeddus, ac ystyried a ellir gwneud gwelliannau.”
Meithrin perthnasau
Daeth yr Athro Cushion i Gaerdydd yn 2001 i wneud ei Radd Meistr a dewisodd yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant oherwydd ei “henw da, nid yn unig am gynhyrchu ymchwil o ansawdd uchel ond hefyd am fod llawer o’r ymchwil a gynhyrchwyd wedi helpu o ran rhoi gwybodaeth i gyfryngau a newyddiaduraeth gydag argymhellion ymarferol ynghylch gwella dealltwriaeth y cyhoedd o’r byd.”
Ychwanega: “Ceir wastad rywfaint o deimlad o amheuaeth pan fydda i’n cwrdd â newyddiadurwyr i ddechrau. Mae’n cymryd amser i feithrin ymddiriedaeth.
“Maen nhw’n ceisio gwneud synnwyr o’r newyddion o ddydd i ddydd, gan wneud penderfyniadau am y stori nesaf.
Nid yw amser yn caniatáu, bob tro, iddynt edrych ar bethau dros gyfnod hirach. Rwy’n gallu rhoi trosolwg iddynt o’r cyfan, ac edrych ar y darlun mwy. Gyda’r math hwnnw o bersbectif, rydych chi’n gallu gweld patrymau’n dod i’r amlwg.
“Dros amser, a thrwy gadw’r ddeialog honno’n agored ac yn barhaus, rydym yn ceisio ymgysylltu’n adeiladol â golygyddion drwy gyflwyno canfyddiadau ein hymchwil.”
Ychwanega, “Mae’n cymryd blynyddoedd i feithrin y perthnasoedd hynny. Mae’n gofyn sgwrsio â phobl ‘off the record’, gwrando er mwyn deall beth sydd ei angen arnyn nhw, a chynhyrchu cynnwys sy’n eu helpu nhw yn eu rolau.”
Mae gwaith Prifysgol Caerdydd o ran cefnogi newyddiadurwyr trwy’r cyfnod cwbl anarferol hwn yn parhau, ac mae’n waith sy’n digwydd ar garlam. “Mae’n gyfnod heriol dros ben i newyddiadurwyr,” meddai. “Yr her i academyddion y cyfryngau yw parhau i ymgysylltu â golygyddion a newyddiadurwyr, gan ddarparu ymchwil gadarn sy’n bwydo i mewn i’w gwaith ac yn eu cefnogi.”
Beth fydd yn dod nesaf?
Mae’r Athro Cushion yn parhau i ymgysylltu ag uwch-olygyddion a rheoleiddwyr y cyfryngau ynghylch ei ymchwil ddiweddaraf, gan gynnwys darllediadau rhwydwaith o faterion datganoledig yn ystod y pandemig, ac yn fwy cyffredinol sut y gall newyddiadurwyr fynd i’r afael yn effeithiol â chamwybodaeth a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o wleidyddiaeth a materion cyhoeddus.
Adlewyrchu datganoli: Beth sydd wedi newid?
- Mae newyddiadurwyr BBC UK yn tynnu sylw at y straeon datganoledig gan eu cyfeirio at dimau rhanbarthol, a gofynnir i wledydd y BBC dynnu sylw Golygydd Newyddion y DU at unrhyw fethiannau.
- Cyflwyno ‘belt newyddion y Gwledydd’ parhaol ar y Newyddion am 6
- Mae Penaethiaid Newyddion yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon nawr yn rhan o gynhadledd newyddion 9am y BBC, a hynny drwy gynhadledd fideo.
Tystebau
“Mae dadansoddiadau ar gynnwys ac astudiaethau achos ansoddol yr Athro Cushion – mae’r rhain ar raddfa eang, wedi helpu i ddangos cryfderau a gwendidau rhaglennu newyddion mewn nifer o feysydd, ac ar draws nifer o sefydliadau newyddion. Yn ITV News, mae’r ymchwil wedi bod yn ddefnyddiol, yn ymarferol felly.
“Mae gwaith yr Athro Cushion ar adrodd am wleidyddiaeth a pholisi mewn DU ddatganoledig wedi bod o ddiddordeb arbennig. Mae ei waith cyhoeddedig a sgyrsiau preifat gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau wedi cael effaith gadarnhaol ar sut mae ITV News yn mynd i’r afael â’r heriau o ran adrodd yn gywir am lunio polisïau datganoledig i gynulleidfaoedd ledled y DU. Mae’r Athro Cushion yn academydd o fri, ond mae hefyd yn ddylanwadwr effeithiol iawn. Mae wedi dangos y gallu i fod yn feirniadol o benderfyniadau sefydliad newyddion mewn modd sy’n arwain at ymgysylltu adeiladol yn hytrach nag amddiffynnol.
“Mae dadansoddiad ystadegol y tu ôl i’w waith bob amser, ac mae bob amser yn effeithiol wrth berswadio uwch-wneuthurwyr-penderfyniadau’r cyfryngau newyddion i ystyried ei dystiolaeth a’i gasgliadau. Dros nifer o flynyddoedd, mae ei waith wedi cael effaith ymarferol yn y byd go iawn o ran gwella’r dull a’r broses o wneud penderfyniadau mewn ystafelloedd newyddion.” Michael Jermey, Cyfarwyddwr Newyddion a Materion Cyfoes ITV
“Mae Adolygiad Ymddiriedolaeth y BBC o Ddidueddrwydd o ran y Gwledydd a’r dadansoddi cynnwys dilynol, wedi bod yn amhrisiadwy wrth olrhain ac asesu perfformiad y BBC dros yr wyth mlynedd diwethaf.” Ymddiriedolaeth y BBC, 2016
“Roedd yr ymchwil ddilynol a ddarparodd Stephen Cushion i ni yn amhrisiadwy. Ceir ôl-drafodaeth yn ddyddiol, yn dilyn rhaglenni, felly mae llwyddiannau a methiannau unigol yn cael eu nodi, ond roedd cael trosolwg yn helpu i bawb ddeall pan nad oedden ni’n cael pethau’n iawn, ac yn ein helpu hefyd i ddeall pam. Roedd ei drosolwg o’n hallbwn, yn ei hanfod, yn llwybr byr at ffocysu ar beth yn union yr oedd angen i ni ei wneud i fod yn well.” Cait Fitzsimons, Golygydd 5 News
Gwella’r gohebu ynghylch ystadegau
- Mae’r tîm ‘Reality Check’, sy’n holi ac yn darparu cyd-destun ar ffigurau sy’n cael eu hadrodd gan y cyfryngau, wedi dod yn endid parhaol sy’n rhedeg drwy holl raglennu Newyddion y BBC.
- Roedd canllawiau golygyddol y BBC yn 2019 yn cynnwys adran newydd o’r enw ‘Adrodd Ystadegau’ wedi’u llywio gan ganfyddiadau Prifysgol Caerdydd, ac yn cynnig cyngor adeiladol ar ymdrin ag ystadegau.
- Mae newyddiadurwyr a chyflwynwyr wedi cael eu briffio ar yr ymchwil, gan eu gwneud yn fwy hyderus i gwestiynu ystadegau ac yn fwy ymwybodol o’r angen i ddarparu cyd-destun pwysig.
Ymchwil yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant
Mae gennym dîm rhyngwladol o ysgolheigion sy’n dadansoddi polisi, sylwadau ac arferion y cyfryngau, gan ganolbwyntio ar heriau’r presennol a’r dyfodol.
Pobl
Cyhoeddiadau
- McDowell-Naylor, D. , Cushion, S. and Thomas, R. 2023. A typology of alternative online political media in the United Kingdom: A longitudinal content analysis (2015-2018). Journalism 24 (1), pp.41-61. (10.1177/14648849211059585)
- Cushion, S. 2022. Are public service media distinctive from the market? Interpreting the political information environments of BBC and commercial news in the UK. European Journal of Communication 37 (1), pp.3-20. (10.1177/02673231211012149)
- Cushion, S. et al. 2022. (Mis)understanding the coronavirus and how it was handled in the UK: An analysis of public knowledge and the information environment. Journalism Studies 23 (5-6), pp.703-721. (10.1080/1461670X.2021.1950564)
- Cushion, S. et al. 2022. Why media systems matter: A fact-checking study of UK television news during the Coronavirus pandemic. Digital Journalism 10 (5), pp.698-716. (10.1080/21670811.2021.1965490)
- Cushion, S. 2022. UK Alternative left media and their criticism of mainstream news: analysing the Canary and Evolve politics. Journalism Practice 16 (8), pp.1695-1714. (10.1080/17512786.2021.1882875)
- Cushion, S. , McDowell-Naylor, D. and Thomas, R. 2021. Why national media systems matter: A longitudinal analysis of how UK left-wing and right-wing alternative media critique mainstream media (2015-2018). Journalism Studies 22 (5), pp.633-652. (10.1080/1461670X.2021.1893795)
- Cushion, S. , Lewis, J. and Kilby, A. 2020. Why context, relevance and repetition matter in news reporting: Interpreting the United Kingdom's political information environment. Journalism 21 (1), pp.34-53. (10.1177/1464884917746560)
Rhagor o wybodaeth
Prosiectau ymchwil cyfredol
Countering Disinformation research project
Beyond the ‘MSM’: Understanding the rise of online alternative political media
Erthyglau blog gan The Conversation
BBC: why enhancing the public broadcaster’s fact-checking would strengthen its impartiality
News UK TV and GB News: new channels stoke fears of more partisan journalism
Coronavirus: fake news less of a problem than confusing government messages – new study
Broadcast election coverage needs to do better at explaining devolved issues
Adroddiadau blaenorol
BBC Trust Impartiality Review (2016), sy’n cyfeirio at ganfyddiadau academaidd yr Athro Cushion a’r tîm ymchwil.
Ofcom review of BBC News and Current Affairs (2019) Comisiynwyd tîm yr Athro Cushion i gynnal dadansoddiad cynnwys gan edrych ar ystod a dyfnder y straeon.
Past highlights
Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r system a ddefnyddir i asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.