Gwella gwneud penderfyniadau ar ddiwedd oes
Ein trafodaeth a sbardunwyd gan ymchwil am driniaeth pobl mewn cyflyrau disymud neu anymwybodol.
Mae penderfyniadau diwedd oes i bobl mewn cyflwr diymateb a lled-ymwybodol yn golygu dyfarniadau risg clinigol a moesegol anodd. Maent yn destun diddordeb tanbaid ymysg y cyfryngau, datblygiadau ym meysydd y gyfraith a pholisi, yn ogystal ag ymchwil wyddonol.
Ysgogodd ein hymchwilwyr drafodaeth ynglŷn â sut caiff pobl â chyflyrau o’r fath eu trin er mwyn creu ffyrdd newydd o fynd i’r afael â phenderfyniadau diwedd oes.
Ystyried agweddau
Mae grŵp ymchwil ‘Risg, Gwyddoniaeth, Iechyd a Chyfryngau’ yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol yn ystyried cynrychiolaeth ddiwylliannol, agweddau’r cyhoedd a pholisi mewn perthynas â materion gwyddonol a iechyd.
Mae gwaith y tîm ar gyflyrau diymateb/lled-ymwybodol yn cynnwys adolygu llenyddiaeth bresennol a mapio problemau a bylchau o safbwynt y dyniaethau/gwyddoniaeth gymdeithasol. Dadansoddwyd adroddiadau cyfryngol, archwiliwyd y defnydd o dechnoleg a chynhaliwyd cyfweliadau gyda chlinigwyr a thros 50 o deuluoedd, gan ganolbwyntio ar wneud penderfyniadau ynghylch triniaethau meddygol difrifol.
Yn ogystal, fe gynhaliodd y tîm gyfweliad manwl/astudiaeth grŵp ffocws mewn tair uned niwrolegol arbenigol - gan edrych ar brofiadau o ddarpariaeth gofal hir dymor.
Goblygiadau technoleg newydd
Mae nifer gynyddol o bobl bellach yn goroesi anafiadau trychinebus i’r ymennydd - yn rhannol o ganlyniad i ddatblygiadau mewn technoleg feddygol.
Cafodd y cyflwr ‘diymateb’ ei adnabod yn 1972, y cyflwr ‘lled-ymwybodol’ yn 2002 (i ddisgrifio cleifion sy’n dangos ychydig iawn o ymwybyddiaeth/ymwybyddiaeth ysbeidiol).
A guiding light
Rhoddodd y portffolio ymchwil hwn, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â chydweithwyr ym Mhrifysgol Efrog, olwg amlddimensiynol o’r heriau dwys sy’n wynebu defnyddwyr gwasanaethau, darparwyr gofal a chynllunwyr polisïau. Yn ogystal, nodwyd bylchau a thensiynau o ran y cyfathrebu rhwng clinigwyr a theuluoedd, cynrychiolaeth yn y cyfryngau a’r dadleuon cyhoeddus, cyfreithiol, proffesiynol ac am bolisïau.
Aeth Gweithgor Coleg Brenhinol y Ffisigwyr ati i newid canllawiau triniaeth y Coleg o ganlyniad i’r ymchwil. Taniodd ddiddordeb ymysg rhanddeiliaid, gan gynnwys meddygon ac arbenigwyr polisi; fe lywiodd ddeunyddiau hyfforddi newydd a chymell clinigwyr i newid eu ffyrdd o feddwl.
Mae’r gwaith ymchwil parhaus hwn wedi’i droi’n rhaglen radio hanner awr ar BBC3 ac fe gyfeiriwyd ato yn adroddiad Tŷ’r Arglwyddi ar Ddeddf Galluoedd Meddyliol 2005, gan gefnogi’r newid a argymhellir. Mae’r gwaith ymchwil i’w weld ar wefan Health Talk hefyd ac fe wnaeth dros 2,000 o bobl ei ddefnyddio yn ystod yr wythnosau cyntaf ers ei lansio.
Yn ogystal, cafodd weithgareddau ehangach ymgysylltu cyhoeddus eu hysbysu ynghylch marwolaeth ac astudiaethau marwolaeth.
Dyma’n harbenigwyr
Yr Athro Jenny Kitzinger
Cyfarwyddwr Ymchwil: Effaith ac Ymgysylltu, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Caerdydd-Efrog ynghylch Anhwylderau Ymwybyddiaeth Cronig
- kitzingerj@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 208 74571