Ewch i’r prif gynnwys

Podlediad The Power of Public Value

The Power of Public Value

Mae The Power of Public Value, podlediad a gyflwynir i chi gan Ysgol Busnes Caerdydd, yn datgelu sut i newid ein cymdeithas a’n heconomi er budd cenedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.

Rydym yn archwilio sut i fynd y tu hwnt i elw, i ddod â dynoliaeth, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd i'r sector busnes.

Ym mhob pennod, mae gwestai yn rhannu eu straeon pwerus am werth cyhoeddus gyda’r cyflwynydd, yr Athro Peter Wells, y Rhag Ddeon ar gyfer Gwerth Cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cewch glywed sut maen nhw'n dehongli, yn diffinio ac yn cynrychioli egwyddorion gwerth cyhoeddus yr ysgol, wedi'u harwain gan eu cymhellion personol, eu gwerthoedd a'u diddordebau ymchwil eu hunain.

Yn llawn sgyrsiau sy’n ysgogi’r meddwl, mae’r podlediad yn eich helpu i feddwl yn wahanol am sut y gall busnes lunio ein cymdeithas a’n heconomi.

“Mae’r penodau’n dangos sut rydyn ni wir yn rhoi pwysigrwydd ar ethos gwerth cyhoeddus fel ysgol busnes. Mae wedi bod yn hynod ddiddorol cael sgyrsiau dwfn ac ystyrlon gyda'n cydweithwyr yn y gyfadran a’r gwasanaethau proffesiynol am eu mentrau ymchwil, addysgu ac ymgysylltu ysbrydoledig. Rydyn ni wedi mynd i’r afael â phwysigrwydd herio’r sefyllfa sydd ohoni ym maes busnes i adael effaith gadarnhaol ar y byd.”
Yr Athro Peter Wells Professor of Business and Sustainability, Director of the Centre for Automotive Industry Research, Pro Dean Public Value

Gwyliwch ar YouTube / gwrandewch ar Spotify neu Apple Podcasts.

Cyfres un

Ym mhennod gyntaf ein cyfres, mae'r cyflwynydd Peter yn sgwrsio â Dr Deborah Hann. Mae eu trafodaeth yn ymwneud â chreu gwerth cyhoeddus trwy waith ymchwil ac addysgu, gan arwain at newid cadarnhaol yn y byd go iawn.

Mae Deborah, Darllenydd mewn Cysylltiadau Cyflogaeth, yn taflu goleuni ar sut mae ei gwaith wedi ysgogi effaith wirioneddol ar gymdeithas. Maen nhw’n canolbwyntio ar ei gwaith ymchwil i’r Cyflog Byw ac ymgysylltu gweithredol â chymunedau lleol Caerdydd.

Gwyliwch ar YouTube

Yn y bennod hon, mae Peter a Dr Hakan Karaosman yn archwilio’r cysyniad diddorol o academydd actif ac yn trafod sut y gall y byd academaidd fod yn gatalydd ar gyfer newid cymdeithasol ac amgylcheddol.

Mae Hakan, Darlithydd mewn Rheoli Cadwyni Cyflenwi, yn rhannu ei waith ymchwil i gymryd camau gweithredu er budd yr hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol mewn cadwyni cyflenwi ffasiwn. Maent hefyd yn dadansoddi’r gwerthoedd craidd a'r cymhellion y tu ôl i waith ymchwil Hakan sy'n canolbwyntio ar bobl ac yn siarad am sut i fesur llwyddiant.

Gwyliwch ar YouTube

Ym mhennod 3, mae’r Athro Jane Lynch a Peter yn trafod ymgorffori cynaliadwyedd mewn arferion caffael er budd cenedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol.

Maent yn archwilio rôl Jane fel Cyfarwyddwr y Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae’r sgwrs hefyd yn cyffwrdd â phwysigrwydd cydweithio a pham y dylem herio o ble rydym yn prynu pethau.

Gwyliwch ar YouTube

Ymunwch â ni ar gyfer y bennod ysgogol hon lle mae Peter yn sgwrsio â Dr Olaya Moldes Andres, gan drafod ei gwaith ymchwil ar werthoedd materol a gor-ddefnydd.

A hithau’n Ddarlithydd mewn Marchnata a Strategaeth, mae Olaya yn dweud wrthym am ei chefndir mewn seicoleg ac yn taflu goleuni ar y synergeddau rhwng busnes a seicoleg. Archwilir hefyd bynciau fel prynwriaeth, defnyddio lles fel ffordd o werthu cynhyrchion, a sut i fesur hapusrwydd.

Gwyliwch ar YouTube

Ym mhennod 5, mae Peter yn sgwrsio â Julia Leath, y Dirprwy Reolwr Cyfleusterau yn Ysgol Busnes Caerdydd, yn archwilio sut mae hi'n plethu gwerth cyhoeddus yn ei rôl.

Gan gyfrannu’n gadarnhaol at y gymuned gyfagos (gan gynnwys y bywyd gwyllt lleol!), mae eu trafodaeth yn canolbwyntio ar fentrau, fel y prosiect Campws Cyfeillgar i Ddraenogod, ail-bwrpasu dodrefn, a meithrin ymgysylltiad cymunedol.

Gwyliwch ar YouTube

Ym mhennod olaf y gyfres, mae Peter yn sgwrsio â'r Athro Economeg, Calvin Jones, lle maen nhw'n trafod sut y gwnaeth Calvin helpu i lunio naratif gwerth cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd.

Wrth i'w sgwrs fynd yn ei blaen, mae Calvin yn rhagdybio ynghylch trywydd gwerth cyhoeddus y dyfodol. Mae'n rhannu ei farn bersonol ar beth allai ysgolion busnes ei wneud i hyrwyddo ymhellach, a dangos eu hymrwymiad i werth cyhoeddus a'i hesblygiad. Mae’n cynnwys awgrymiadau ar sut i amharu ar fodelau AU presennol, ailedrych ar ddulliau recriwtio rhyngwladol, a ffyrdd eraill y gall y byd academaidd, o’i safbwynt ef, gwrdd â’r her o greu byd sy’n fwy cynaliadwy.

Gwyliwch ar YouTube

Cyfres dau

Faint o raddau Peirianneg sydd eu hangen arnoch chi i ddod yn arbenigwr mewn caethwasiaeth fodern? Yn y bennod gyntaf o’n cyfres newydd, mae Dr Maryam Lotfi, Uwch-ddarlithydd Rheoli Cadwyni Cyflenwi’n Gynaliadwy, yn sôn wrth Peter am ei chefndir a’r tosturi sy’n ysgogi ei gwaith ar y realiti cudd mewn cadwyni cyflenwi byd-eang.

Mae hefyd yn rhannu sut mae ei hymchwil yn dylanwadu ar y ffordd y mae’n addysgu a’i rôl yn y broses o sefydlu’r Grŵp Ymchwil i Gaethwasiaeth Fodern a Chynaliadwyedd Cymdeithasol.

Gwyliwch ar YouTube

Bydd Peter yn cael sgwrs gyda’r Athro Eleri Rosier, y mae ei hegni a’i hoptimistiaeth yn ei gwneud hi’n hyrwyddwr perffaith ar gyfer mentrau’r Gymraeg yn Ysgol Busnes Caerdydd. Maen nhw hefyd yn trafod ei rôl allweddol yn denu myfyrwyr rhyngwladol fel Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn Ôl-raddedigion Mae Eleri yn brawf o’r ffordd y mae Prifysgol Caerdydd yn cydbwyso gwreiddiau Cymru ag agwedd fyd-eang.

Gwyliwch ar YouTube

Oes lle i wartheg sy’n rhechu yn y rhaglen MBA? Wel, oes, mae’n debyg. Ym mhennod 3, bydd Peter yn sgwrsio â Jagatheep Kumar, myfyriwr MBA, am ei benderfyniad i astudio yn Ysgol Busnes Caerdydd a'r ffocws ar werth y cyhoedd. Bydd Jagatheep yn rhannu sut y newidiodd yr MBA, a phrosiect bach ar allyriadau methan gwartheg, ei safbwynt o edrych ar fusnes fel rhywbeth sy’n rhoi elw personol i ddeall ei effaith ar gymdeithas ehangach.

Gwyliwch ar YouTube

Os oes unrhyw un yn cyfleu bywydau nomadig academyddion y byd modern, Dr Helen Tilley yw honno, fel daeth i’r amlwg yn ei sgwrs gyda Peter.

Bellach wedi setlo fel Uwch Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, bydd Helen yn myfyrio ar ei thaith gyrfaol o rolau datblygu rhyngwladol dramor i lunio polisi yng Nghymru. Byddant hefyd yn trafod rôl y Ganolfan wrth ddod ag arbenigwyr ynghyd i ddarparu tystiolaeth hanfodol ar gyfer llunwyr polisi.

Gwyliwch ar YouTube

Yn dod yn fuan

Yn dod yn fuan

Yn dod yn fuan

Yn dod yn fuan

Yn dod yn fuan

Manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth

Picture of Peter Wells

Yr Athro Peter Wells

Athro Busnes a Chynaliadwyedd, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i'r Diwydiant Modurol, Pro Dean for Public Value

Telephone
+44 29208 75717
Email
WellsPE@caerdydd.ac.uk