Ewch i’r prif gynnwys

Mae mwy na 5 miliwn o weithwyr ledled y DU ar gyflog isel, ac mae cyfraddau tlodi mewn gwaith yn cynyddu.

Mae’r Ymgyrch dros Gyflog Byw, a lansiwyd gan Citizens UK yn 2001, yn cyflwyno safon cyflog byw wirfoddol ar sail costau byw yn y DU, y gall cyflogwyr ei mabwysiadu. Y bwriad yw sicrhau safon byw foddhaol i weithwyr ar gyflog isel.

Bydd gweithiwr amser llawn sy’n cael cyflog byw o £9.90 yr awr yn cael gwerth £769 yn fwy o gyflog mewn blwyddyn o’i gymharu â gweithiwr amser llawn sy’n cael isafswm cyflog presennol Llywodraeth y DU o £9.50 yr awr.

Pan ddaeth Prifysgol Caerdydd yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig yn 2014, cafodd dychymyg ymchwilwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd ei danio.

“Yn ein barn ni, roedd yn fater pwysig,” meddai’r Athro Edmund Heery, wrth feddwl yn ôl. “Yn dilyn y digwyddiad lansio, dechreuodd ein hymchwil i effaith ehangach y mater. Wrth i’r argyfwng costau byw heddiw ddechrau effeithio ar deuluoedd, mae wedi dod yn fater pwysicach fyth.”

Bron i ddegawd yn ddiweddarach, mae’r ymchwil gan yr Athro Heery a’i gydweithwyr Dr Deborah Hann a Dr David Nash wedi llywio strategaethau ac ymgyrchoedd Living Wage Foundation, a gafodd ei ffurfio i hyrwyddo’r safon ac achredu cyflogwyr. Mae eu gwaith hefyd wedi rhoi gwybodaeth i lawer o sefydliadau eraill ledled y DU.

Drwy gynnig tystiolaeth glir o fanteision talu cyflog byw, mae’r ymchwil wedi helpu i gynyddu nifer y cyflogwyr sy’n gwneud hynny.

Gwella cyflogau’r rhai sy’n cael eu talu’r lleiaf

Mae tua 5.8 miliwn o weithwyr yn dal i gael eu talu lai na chyflog byw ledled y DU.

Dywedodd yr Athro Heery, sy’n arbenigwr cysylltiadau cyflogaeth: “Mae cyflogau isel ym Mhrydain yn broblem fawr. Er gwaethaf y rhethreg, nid oes gennym economi cyflog uchel. Mae gan Brydain economi awrwydr glasurol, sy’n anghyfartal iawn, lle mae llawer o weithwyr ar gyflog isel a llawer o weithwyr ar gyflog uchel, ond nid llawer o weithwyr ar incwm canolig.

“Dros y 20 mlynedd diwethaf, gwelwyd cynnydd amlwg yn nifer y sefydliadau cymdeithas sifil neu anllywodraethol sy’n ceisio llywio’r gweithle. Felly, dechreuais wneud ymchwil i’r ‘gweithredwyr newydd’ hyn, ac mae Living Wage Foundation a’i waith i wella incwm pobl yn un enghraifft graffig o’r rhain.”

Dechreuodd ef a’i gydweithwyr eu hymchwil i gyflog byw drwy fapio pwy oedd yn ei dalu, creu cronfa ddata o’r holl gyflogwyr achrededig a chynnal arolwg o’r cyflogwyr hynny a oedd wedi ei fabwysiadu. Gwnaethant hefyd gyfweld â chyflogwyr yn uniongyrchol ac astudio dulliau sefydliadau gwahanol o’i gyflwyno.

Dywedodd Dr Nash, wrth feddwl yn ôl: “Ar ôl i ni gysylltu â Living Wage Foundation a Citizens UK, gwnaeth ein gwaith dyfu ac ehangu. Roedd yn amlwg eu bod yn awyddus i’n gwybodaeth a’n gwaith dadansoddi gyfrannu at strategaeth eu hymgyrch.”

Effaith yr Ymgyrch dros Gyflog Byw

Drwy feithrin perthynas gydweithredol hirdymor â Living Wage Foundation, mae’r ymchwilwyr wedi gallu gweld data unigryw, sydd wedi’i gwneud yn bosibl iddynt fesur effaith gwaith ymgyrchu’r sefydliad.

Lle mae eraill wedi canolbwyntio ar sectorau penodol neu is-setiau o gyflogwyr, mae cronfa ddata tîm y Brifysgol yn cyflwyno darlun unigryw o bwy sy’n talu cyflog byw ledled y DU gyfan. Mae hefyd yn cynnwys data’r unig arolwg rheolaidd o gyflogwyr achrededig.

Ymhlith pethau eraill, mae eu canfyddiadau allweddol wedi dangos bod nifer anghymesur o gyflogwyr achrededig i’w cael yn y sector nid-er-elw ac mewn diwydiannau sy’n talu’n gymharol dda, fel cyllid, gwasanaethau proffesiynol a TG.

Mae’n dangos bod nifer fawr o gyflogwyr yn talu cyflog byw mewn diwydiannau sy’n talu cyflog isel, fel gofal cymdeithasol, glanhau a diogelwch, lle ceir nifer uchel o fusnesau o ystyried cyfran y diwydiannau hyn o’r economi. Mae nifer gynyddol o fusnesau lletygarwch wedi mabwysiadu’r safon, hefyd.

Dangosodd eu canlyniadau fod gan yr Alban y nifer fwyaf o gyflogwyr achrededig a bod gan Gymru nifer uwch o gyflogwyr achrededig na phob rhanbarth yn Lloegr, ar wahân i Lundain.

Yn bwysig, roedd y tîm hefyd yn gallu dangos tystiolaeth o fanteision sicrhau achrediad – i gyflogwyr yn ogystal â gweithwyr sy’n gymwys i gael cyflog byw.

Ychwanegodd yr Athro Heery: “Un peth nodedig y mae ein hymchwil fwy diweddar wedi dangos yw bod cyflogwyr wedi parhau i gefnogi’r safon yn ystod y pandemig – a dweud y gwir, mae mwy o gyflogwyr nag erioed wedi bod yn ei mabwysiadu.”

Yr effaith ar weithwyr

  • Amcangyfrifir bod isafswm o 323,514 o weithwyr, rhan-amser yn bennaf, sydd wedi’u cyflogi gan gontractwyr ac sy’n gwneud gwaith y mae menywod yn ei wneud yn bennaf wedi sicrhau codiad cyflog.
  • Amcangyfrifir mai cyfanswm gwerth cyflog byw i weithwyr yn y cyfnod ers 2011 yw £1.86 biliwn. Mae’n werth £62 miliwn yng Nghymru, £332 miliwn yn yr Alban a £1.46 biliwn yn Lloegr.
  • Ym mis Mawrth eleni, roedd 12,201 o gyflogwyr wedi mabwysiadu’r safon. Gyda’i gilydd, maent yn cyflogi 3.3 miliwn o weithwyr, a gwnaeth 321,000 ohonynt elwa o’r codiad cyflog.

Llywio strategaeth a gwaith datblygu polisïau

Mae i ganfyddiadau’r ymchwil le canolog yn strategaeth gyfathrebu a gwaith datblygu polisïau Living Wage Foundation. Cadarnhaodd Katherine Chapman, Cyfarwyddwr Living Wage Foundation, fod yr “ymchwil wedi bod yn hanfodol er mwyn perswadio busnesau i fabwysiadu’r safon a gwella telerau cyflogaeth eu holl staff, gan gynnwys eu gweithlu trydydd parti dan gontract, y mae gwaith sy’n talu cyflog isel yn aml yn cael ei allanoli iddo.”

Ers ymgorffori tystiolaeth tîm y Brifysgol ym mis Ebrill 2017, mae Living Wage Foundation wedi achredu mwy na 8,600 o sefydliadau. O ganlyniad, mae cyflog dros 200,000 o weithwyr sy’n cael eu cyflogi gan y sefydliadau hynny wedi cynyddu. Y llynedd yn unig, arweiniodd cynnydd yn nifer y sefydliadau sy’n talu cyflog byw go iawn at dalu gwerth £318 miliwn yn ychwanegol i weithwyr ar gyflog isel.

Yn ôl yr Athro Heery: “Nid wyf yn gwybod a ddylid ei galw’n ‘ymchwil weithredu’ neu beidio, ond roedd gwneud ymchwil a oedd yn gallu dylanwadu ar nodau a chyfeiriad yr ymgyrch ar gam cynnar iawn wir o ddiddordeb i mi.

“Yn aml, mae rhai pobl yn sinigaidd ynghylch ymgyrchoedd fel hyn a mathau ysgafn o ymyrraeth â’r farchnad lafur. Felly, mae’n bwysig dangos a yw’r ymchwil yn cael effaith wirioneddol a pharhaol neu beidio.”

Ymgyrchu ac eiriolaeth yng Nghymru

Mae mabwysiadu’r safon cyflog byw yn eang yn arbennig o bwysig i Gymru, lle mae mwy nag un ym mhob pump o weithwyr yn cael eu talu llai na chyflog byw.

Gwnaeth gwaith tîm y Brifysgol, a ddatgelodd fod gan Gymru nifer gymharol fach o gyflogwyr cyflog byw o’i chymharu â’r Alban, argyhoeddi Living Wage Foundation bod angen corff ar lawr gwlad arno i achredu cyflogwyr yng Nghymru.

Arweiniodd hyn at recriwtio’r elusen datblygu cynaliadwy, Cynnal Cymru, i fod yn bartner i Living Wage Foundation a fyddai’n hyrwyddo cyflog byw ac yn achredu cyflogwyr yng Nghymru. Ers hynny, gwelwyd cynnydd dramatig yn nifer y cyflogwyr achrededig; o 70 o gyflogwyr yn 2017 i fwy na 400 o gyflogwyr heddiw, sy’n golygu bod cyflog miloedd o weithwyr wedi cynyddu.

Mae Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â phrifysgolion eraill yng Nghymru, ymhlith y sefydliadau y mae canfyddiadau ymchwil y tîm wedi dylanwadu arnynt i’r graddau eu bod wedi ymestyn cyflog byw i’w prosesau caffael.

Mae gwaith y tîm wedi cyfrannu at dalu £62 miliwn yn ychwanegol i weithwyr ar gyflog isel yng Nghymru.

Comisiwn Gwaith Teg

Roedd yr ymchwil yn un o’r ffactorau a achosodd Llywodraeth Cymru i sefydlu Comisiwn Gwaith Teg yn 2018 er mwyn argymell ffyrdd o fynd i’r afael â phroblemau ym marchnad lafur Cymru, gan gynnwys cyflog isel.

Cafodd yr Athro Heery ei benodi i'r Comisiwn, a chyfeiriodd at ymchwil sylfaenol Caerdydd – yn enwedig y canfyddiadau hynny bod nifer fach o gyflogwyr yn talu cyflog byw yng Nghymru a bod talu cyflog byw’n cael effaith gadarnhaol i gyflogwyr – i gynnig sail dystiolaeth ar gyfer gwaith y Comisiwn.

Gwnaeth y Comisiwn gyfres o argymhellion ynghylch cyflog byw, gan gynnwys argymell y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i hyrwyddo’r safon. Derbyniodd Llywodraeth Cymru’r argymhellion hyn yn llawn yn 2019, ac mae bellach yn ariannu talu cyflog byw i holl weithwyr gofal cymdeithasol Cymru. Yn ogystal, mae’n rhaid i bob sefydliad sy’n cael arian cyhoeddus yng Nghymru ymrwymo i gôd ymarfer, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddangos sut maent wedi ystyried talu cyflog byw.

Yr effaith ar fusnesau

  • Roedd cyflogwyr yn elwa o enw da corfforaethol gwell (81%), gwell cyfraddau cadw staff (60%) a gwell cysylltiadau yn y gweithle rhwng staff a rheolwyr (64%).
  • Dywedodd 36% o gyflogwyr fod bod yn gyflogwyr cyflog byw wedi’u helpu i sicrhau contractau yn y sector preifat, a dywedodd 39% ohonynt fod hynny’n wir yn y sector cyhoeddus.

Ystyried llwyddiant

Diolch i ymchwil y tîm, mae llawer mwy o bobl yn y DU yn cael cyflog gwell, gan gynnwys y rhai yn y grwpiau hynny sydd yn draddodiadol wedi cael eu talu llai.

Dywed Dr Hann: “Yn ein harolwg diweddaraf, dywedodd 53% o gyflogwyr fod dros hanner y gweithwyr sy’n elwa o gyflog byw yn eu sefydliad yn fenywod. Yr arwydd yw bod nifer fawr o leiafrifoedd ethnig a gweithwyr ifanc wedi elwa, hefyd.”

Dywed yr Athro Heery: “Mae wedi bod yn wych gweld effaith ein hymchwil a’r gwahaniaeth y mae wedi’i wneud. Mae canlyniadau ein gwaith yn wirioneddol bwysig i ni.

“Mae’n gwneud gwahaniaeth ymarferol, ac mae Cymru’n cael ei hystyried yn baragon erbyn hyn gan rwydwaith Citizens UK o ran sut i ymgyrchu dros gyflog byw. Mae pob rhan arall o’r DU yn edrych tuag at Gymru fel esiampl. Rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan yn y gwaith hwn mewn rhyw ffordd.”

Wrth i gostau byw gynyddu, mae'r ymchwil yn parhau.

Ychwanega Dr Nash: “Oherwydd yr argyfwng costau byw presennol, mae cyflog digonol yn bwysicach nag erioed.  Byddwn yn parhau i wneud gwaith ymchwil a dadansoddi i helpu’r Ymgyrch dros Gyflog Byw i ymateb i’r her hon.”

Adnoddau

The Living Wage

Employer Experience

Cwrdd â’r tîm

Cysylltiadau pwysig

Cyhoeddiadau

Partneriaid