International students rank Cardiff experience as ‘outstanding’
18 November 2014
Yn ôl ymchwil newydd, mae Caerdydd yn darparu profiad 'ardderchog' i fyfyrwyr rhyngwladol.
Prifysgol Caerdydd yw un o bum prifysgol ym Mhrydain sydd wedi ennill statws 'Ardderchog' yng Ngwobrau Boddhad Myfyrwyr Rhyngwladol.
Mae Gwobrau Boddhad Myfyrwyr Rhyngwladol StudyPortals 2014 yn seiliedig ar 16,427 o sylwadau gan 6,923 o fyfyrwyr rhyngwladol ledled Ewrop.
Mae'r adolygiadau hyn yn darparu mewnwelediadau prin i berfformiadau prifysgolion o safbwynt myfyrwyr rhyngwladol.
Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-ganghellor Ymgysylltu a Materion Rhyngwladol: "Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn lle atyniadol i astudio sy'n cynnig profiad ardderchog i fyfyrwyr.
"Mae gan y Brifysgol hanes da o ddenu myfyrwyr o bob rhan o'r byd. Maent yn cael eu denu i Gaerdydd oherwydd ein henw da rhyngwladol.
"Ar ôl iddynt gyrraedd, rydym yn gwneud pob ymdrech i'w cefnogi nhw ac i sicrhau bod eu hamser yng Nghaerdydd yn gofiadwy ac yn gadarnhaol.
"Y peth mwyaf boddhaol o ran ennill y wobr hon yw ei bod yn seiliedig ar safbwyntiau'r myfyrwyr rhyngwladol eu hunain," ychwanegodd.
Mae'r prifysgolion a gafodd eu cynnwys y ngwobr eleni wedi bod yn destun dros ugain o adolygiadau yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Ar gyfartaledd, cafodd y sefydliadau a enillodd Wobr Myfyrwyr Rhyngwladol Ardderchog sgôr o 9.5, neu'n uwch, allan o ddeg.