Coleg Cymraeg Research Conference
19 May 2017
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal cynhadledd rhyngddisgyblaethol yng Ngregynog ar y 30 Mehefin 2017.
Gwahoddir gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Bwriad y digwyddiad yw iddynt gael rhannu ffrwyth eu hymchwil academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg a chwrdd ag ysgolheigion eraill.
Mae'r gynhadledd yn cael ei threfnu fel rhan o raglen hyfforddi'r Coleg ar gyfer staff academaidd, myfyrwyr ôl-raddedig a chymrodyr ôl-ddoethuriaeth. Rydym yn annog deiliad Ysgoloriaeth Ymchwil y Coleg yn enwedig i fynychu a chyflwyno papurau ymchwil.
Yn ystod y gynhadledd, bydd Rhidian Thomas o Ysgol y Biowyddorau yn trafod ei bapur ymchwil ar 'Effaith tymheredd ar allu pysgod estron i nofio, a'u rhyngweithiau â physgod cynhenid.' Enillodd Rhidian Ysgoloriaeth PhD y Coleg Cymraeg yn 2014.
Bydd yna amrywiaeth o drafodaethau gwahanol gan fyfyrwyr o Brifysgolion ar draws Prydain yn cael eu cynnal yn ystod y dydd gan gynnwys 'Miliwn o siaradwyr: ymchwilio a llunio polisi iaith ymddygiadol', 'Dylan-wad: O Milk Wood i'r Wenallt' a 'Beth os mai hon yw Armagedon? Ffurfio diwylliant rhyfel Cymreig yn y Rhyfel Byd Cyntaf'. Mae'r diwrnod yn rhoi cyfle i gymdeithasu hefyd.
Prif bwrpas y gynhadledd yw rhoi cyfle i'r genhedlaeth nesaf o academyddion Cymraeg eu hiaith i dorri eu dannedd ar gyflwyno eu hymchwil gerbron cynulleidfa o gyfoedion. Gwahoddir darlithwyr mwy profiadol i fynychu'r digwyddiad hefyd, fel y gallant rannu eu harbenigedd gyda'r cyfranwyr a helpu ysgogi ysbryd o gydweithio rhyng-sefydliadol a thrawsbynciol.
Mae croeso cynnes i fynychwyr wrando ar drafodaethau’r papurau a'r posteri ymchwil, ond bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y gynhadledd erbyn y 5 Mehefin 2017 drwy lenwi'r ffurflen gofrestru ar wefan y Coleg.
Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am y gynhadledd ar wefan y Coleg.