Cardiff University to reveal new Huntington's treatment at Welsh Science Conference
26 April 2017

Bydd Dr Emyr Lloyd-Evans, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan yng Nghynadledd Wyddonol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Aberystwyth ar y 16 o Fehefin.
Bydd Dr Lloyd-Evans yn siarad am ddatblygu triniaeth newydd ar gyfer clefyd Huntington. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar broteinau lysosomaidd trawsbilennol a'u heffaith ar glefydau niwro-ddirywiol fel Clefyd Huntington os ydynt yn gamweithredol.
Mae lsosomau yn is-set o organelau sy'n hanfodol ar gyfer gweithrediad celloedd, fel y mae'r 50 o glefydau dynol sy'n cael eu hachosi gan gellwyriadau yn y genynau sy'n amgodio proteinau cysylltiedig a lysosomaidd yn dangos.
Dechreuodd Dr Lloyd-Evans ei yrfa ym Mhrifysgol Bath lle cafodd y cyfle i dreulio amser yn Sefydliad Weizmann, Rehovot yn Israel, cyn mynd ati i astudio ei radd Doethur yn Rhydychen dan oruchwyliaeth yr Athro Fran Pratt yn y Sefydliad Glycobioleg. Yn 2010 cafodd ei apwyntio'n Gymrawd RCUK yn Ysgol y Biowyddorau, Caerdydd, i barhau gyda'i ymchwil am weithrediad lysosomaidd.
Gwyddonwyr Cymru yn gadael eu marc
Dywedodd Dr Lloyd-Evans: "Er mai dim ond 0.14% o'r boblogaeth wyddonol fyd-eang sydd gennym yng Nghymru, rydym yn cael cryn effaith drwy gyfrannu 0.7% o allbwn gwyddonol gorau'r byd. Mae'r wlad yn le gwych i wneud ymchwil ynddi."
Mae Dr Lloyd-Evans ymhlith 7 o ddarlithwyr o Brifysgolion Cymru sy'n cymryd rhan yn y Gynhadledd. Mae'r pynciau eraill dan sylw yn cynnwys graffin ar wynebau diemyntau, mater tywyll a newid hinsawdd.
Gwobr y poster gorau
Anogir myfyrwyr ymchwil ac israddedig i gyflwyno poster ar unrhyw agwedd o'u cwrs/testun ymchwil cyhyd â bod y maes o fewn cwmpas y gwyddorau. Caiff y posteri eu beirniadu a bydd gwobr o £100 ar gael i'w rannu. Cysylltwch â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ragor o wybodaeth. Gallwch gofrestru hyd at 5 Mehefin 2017 i fynychu'r gynhadledd ar wefan y Coleg Cymraeg.
Gallwch ddarllen mwy am weithgareddau Dr Lloyd-Evans a'i labordy yn Ysgol y Biowyddorau ar ei wefan.