Deputy Prime Minster delivers Wales Governance Centre Annual Lecture 2012
15 June 2012
Mae Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ac Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyflwyno'i farn am ddyfodol datganoli yng Nghymru yn ystod darlith yng Nghaerdydd yr wythnos hon.
Cyflwynodd y Gwir Anrhydeddus Nick Clegg AS Ddarlith Flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru eleni, yn dwyn y teitl: Power and Responsibility: Where next for devolution?
Sefydlwyd Darlith Flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru yn 2000 ac mae wedi dod yn ddyddiad arwyddocaol yn nyddiadur Prifysgol Caerdydd. Mae darlithoedd y gorffennol wedi cael eu cyflwyno gan arbenigwyr blaenllaw ar ddatganoli ynghyd ag unigolion blaenllaw yng ngwleidyddiaeth Cymru, gan gynnwys Paul Murphy AS, y cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan, cyn arweinydd Ceidwadwyr Cymru Nick Bourne, a chyn Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas AC.
Meddai Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, yr Athro Richard Wyn Jones: "Gyda chymaint o sylw'n canolbwyntio ar ddatblygiadau yn yr Alban, dyma'r tro cyntaf ers sawl blwyddyn i unigolyn blaenllaw yng ngwleidyddiaeth y DU dalu sylw cyson i Gymru a thrafod ei weledigaeth ynghylch dyfodol Cymru a lle'r genedl yn yr Undeb. Roeddem yn falch iawn fod Mr Clegg wedi gallu ymuno â ni – bydd ei safbwyntiau yn gwneud cyfraniad sylweddol at y drafodaeth gyhoeddus ynghylch dyfodol llywodraethiant Cymru."
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn cynnal ymchwil i bob agwedd ar gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, ynghyd â chyd-destunau ehangach y DU ac Ewrop o ran llywodraethiant tiriogaethol. Amcan allweddol gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru yw hwyluso ac annog trafodaeth gyhoeddus wybodus ar ddatblygiadau allweddol yn llywodraethiant Cymru. Mae'n dwyn ynghyd academyddion o Ysgol Iaith, Cyfieithu a Gwleidyddiaeth y Brifysgol (EUROP) ac Ysgol y Gyfraith, Caerdydd.
Cynhaliwyd y ddarlith: Power and Responsibility: Where next for Devolution? ddydd Iau, 14 Mehefin, yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.