Grŵp Ymchwil Amrywiadau Rhifau Copi
Ymchwilio i gael dealltwriaeth well o gyflyrau genetig datblygiadol.
Mae rhai pobl yn cael eu geni gyda newidiadau genetig o'r enw Amrywiadau Rhifau Copi (CNVs). Mewn rhai achosion efallai y bydd rhan o'u cod genetig yn cael ei hailadrodd (dyblygiad), ac mewn achosion eraill efallai y bydd rhan ar goll (dilead).
Mae CNVs yn gyflwr genetig cyffredin. Mae rhai yn cael fawr ddim effaith, neu ddim effaith o gwbl, a gall rhai fod yn fuddiol, er enghraifft, drwy roi gwell ymwrthedd i rai clefydau i bobl.
Fodd bynnag, gall CNVs eraill achosi problemau datblygiadol ac anableddau dysgu, a gallant arwain at siawns uwch o wynebu problemau iechyd meddwl fel awtistiaeth, ADHD, anhwylder gorbryder neu sgitsoffrenia.
Ein hymchwil
Mae ein tîm, a elwir hefyd yn ECHO, yn cynnwys casgliad o ymchwilwyr amlddisgyblaethol ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n astudio llwybrau datblygiadol, iechyd, prosesau dysgu a meddwl, ac ymddygiad plant a phobl ifanc sydd ag amrywiadau rhifau copi (CNVs).
Mae rhieni’n dweud wrthym yn aml nad oes digon o wybodaeth ar gael am yr hyn i’w ddisgwyl pan fydd eu plant yn symud o un cam datblygiadol i’r nesaf.
Nod ein hymchwil yw helpu’r teuluoedd hyn drwy gasglu gwybodaeth a’i defnyddio i rannu syniadau newydd â nhw yn ogystal â chlinigwyr, gweithwyr proffesiynol eraill, a’r gymuned ehangach.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl sydd â'r CNVs canlynol:
- dilead a dyblygiad 1q21.1
- dilead ecsonig 2p16.3
- dilead 3q29
- dyblygiad 7q11.23
- dilead 9q34.3 (Syndrom Kleefstra)
- dilead 15q11.2
- dyblygiad 15q11-13
- dilead a dyblygiad 15q13.3
- dyblygiad 16p11.2
- dilead distal 16p11.2
- dyblygiad 16p13.11
- dilead a dyblygiad 17q12
- syndrom dilead a dyblygiad 22q11.2
Cymryd rhan yn ein hymchwil
Mae gennym ddiddordeb mewn asesu ymddygiad a gweithrediad seicolegol a deallusol plant a phobl ifanc, 7-18 oed, sydd wedi cael diagnosis o un o'r CNVs hyn.
Fel arfer, mae asesiad yn cynnwys ymweliad cartref â dau aelod o'n tîm ymchwil. Gall teuluoedd hefyd gymryd rhan drwy ddod i Gaerdydd, ac rydym hefyd yn cynnig opsiynau hybrid gan ddefnyddio Zoom. Mae ymweliad yn cynnwys cyfweliadau, posau a gemau. Mae sampl DNA hefyd yn cael ei gymryd oddi wrthych chi a/neu'ch plant.
Cefnogir ein hymchwil gan elusennau CNV blaenllaw a grwpiau ymgyrchu, gan gynnwys Unique, Cerebra a Maxappeal.
Cadwch yn gyfoes
Cysylltwch â ni
Os hoffech chi gymryd rhan neu ddarganfod mwy am yr astudiaeth, cysylltwch â ni:
CNV Research Group
Prif Ymchwilwyr
Marianne van den Bree
Professor, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- vandenbreemb@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8433
Our Copy Number Variant research group (formerly ECHO) has published their findings after working with over 200 families and individuals affected by 22q11.2 deletion syndrome.