Ewch i’r prif gynnwys

Y Lle

Cartref Yr Academi Gymraeg yw calon a chanolbwynt iaith a diwylliant Cymraeg y Brifysgol.

Dau berson yn gwrando mewn cyfarfod yn Y Lle
Mae Y Lle yn croesawu pawb sy'n siarad, dysgu a chefnogi Cymraeg i weithio a chyd-greu.

Beth yw Y Lle?

Mae Y Lle yn fan arbennig lle gall pobl ddod at ei gilydd i fwynhau a chefnogi diwylliant a'r iaith Gymraeg.

Fe'i cynlluniwyd i fod yn groesawgar ac yn gydweithredol, gan nodi cam pwysig yn ein hymdrechion i adeiladu cymuned Gymraeg gref.

Ble mae Y Lle?

Mae'r ganolfan ar 53 Plas y Parc, nid nepell o'r brif adeilad, yn cynnig presenoldeb canolog newydd i'n staff Academi Gymraeg, Cangen Caerdydd o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'n tiwtor Dysgu Cymraeg Gwaith Caerdydd – Cymraeg Gwaith.

Cyfleusterau

Yn ogystal â chyfleusterau desgiau poeth a chyfarfodydd, mae gennym ni hefyd ofod cymdeithasol lle gall cydweithwyr a myfyrwyr gyfarfod a throchi eu hunain yn Gymraeg.

Catrin Jones, ein Rheolwr Academi Gymraeg sy'n rhoi mewnwelediad pellach i'r hyn sydd gan Y Lle i'w gynnig:

Watch the video

Hud a lledrith Cymru

Rydyn ni wedi creu amgylchedd croesawgar yn Y Lle sy'n ymgorffori ein treftadaeth Gymreig. Mae pob dodrefnyn yn y gofod yma wedi cael ei ail-bwrpasu'n feddylgar, gan ychwanegu cyffyrddiad o hud a lledrith Cymru. Fe wnaethon ni ailgylchu deg eitem dodrefn swyddfa gan ddefnyddio ffabrigau gwlân Cymreig coeth o Melin Tregwynt, gan gydweithio â'r ffatri o Ben-y-bont ar Ogwr, BOF.

Dathlu artistiaid o Gymru a Ffrainc

Rydyn ni hefyd fel cynfas ar gyfer gweithiau celf a barddoniaeth wreiddiol. Mae ein muriau'n arddangos creadigaethau gan artistiaid Cymraeg eu hiaith a'r rhai sydd â chysylltiad cryf â'r Gymraeg.

Mae printiau ffotograffig yr artist Creole Ffrengig Eric Lesdema yn gras ar yr adeilad, gan ddal ei ryngweithiadau â staff a myfyrwyr Cymraeg. Eric yw ein artist preswyl dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae ei ddelweddau yn ymchwilio i'n perthynas â'r iaith, gan ddarparu persbectif unigryw.

Law yn llaw â phrintiau Eric, ceir gweithiau gan yr artistiaid enwog o Gymru, Iwan Bala ac Elfyn Lewis. Gyda'i gilydd, mae'r cyfuniad yma o gelf a barddoniaeth yn creu amgylchedd sy'n adlewyrchu diwylliant Cymru ac yn dathlu'r iaith.

Dysgu mwy

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am Y Lle neu os hoffech archebu un o'r lleoedd, cysylltwch ag academi@cardiff.ac.uk.