Ewch i’r prif gynnwys

Ein Strategaeth Gymraeg: Yr Alwad/Embrace It

Cymeradwyodd y Senedd a'r Cyngor ein Strategaeth Iaith Gymraeg ym mis Tachwedd 2020.

Rhes o fagiau papur gyda logo dwyieithog y brifysgol
Rydym yn ymrwymo i adeiladu ar fentrau, rhwydweithiau a gweithgareddau Cymraeg presennol.

Yr Alwad/Embrace It, yw ein Strategaeth Gymraeg sy'n ymrwymiad, yn wahoddiad ac yn adeiladu ar fentrau, rhwydweithiau a gweithgareddau Cymraeg presennol. Mae'n darparu agenda ddiwylliannol a chymunedol ddiffiniedig sy'n ategu ac yn gwella ymchwil, addysgu ac uchelgeisiau rhyngwladol cyffredinol y brifysgol.

Mae'r strategaeth yn ymgorffori gwerthoedd cysylltedd, amrywiaeth, cynaladwyedd, llesiant, dealltwriaeth ddiwylliannol a dyletswydd i genedlaethau'r dyfodol.  Cafodd uchelgeisiau'r strategaeth eu nodi a'u hysbrydoli gan ein staff, myfyrwyr, partneriaid a rhanddeiliaid.

Crynodeb

These objectives are set out with the recognition that they can be achieved only by acknowledging the interdependency of our activities and the need to develop an integrated approach to the Welsh language:

Byddwn yn cysylltu ac yn gwella ein darpariaeth, ein gwasanaethau a'n ffyrdd o weithio'n academaidd ac yn broffesiynol i wella profiad myfyrwyr a staff Cymraeg

Ein nod yw denu mwy o israddedigion sy'n byw yng Nghymru drwy bwysleisio'r cymwysterau dwyieithog sy'n ein gwahaniaethu oddi wrth gystadleuwyr Grŵp Russell ac yn ein cysylltu â chymunedau byd-eang.

Byddwn yn arloesi ar ffurf darpariaethau a gweithgareddau trawsddisgyblaethol a thrawssefydliadol sy'n creu ymdeimlad o berthyn i'r brifysgol ac i'r cymunedau ehangach sy'n ei chynnal

Bydd gweithredu'r strategaeth yn cyfrannu at batrymau gwaith sy'n deillio yn hytrach na chreu beichiau i staff ac yn annog mwy o werthfawrogiad o'r rhai sy'n gweithio i wireddu ein dyheadau Cymraeg, gan feithrin ymdeimlad cryfach o berthyn a bodlonrwydd ymhlith staff.

Bydd y strategaeth yn galluogi ymgysylltu'n llawnach â dwyieithrwydd, amlieithrwydd a deinameg diwylliant Cymru, gan ddarparu cyfleoedd i ddatblygu ein brand byd-eang amlochrog

Byddwn yn harneisio ein proffil iaith unigryw i arwain arloesedd trawsddisgyblaethol mewn perthynas ag ymchwil a'i effaith gyhoeddus

Bydd y strategaeth yn gwella dealltwriaeth ddiwylliannol o'r Gymraeg fel rhan o ymdrech ehangach i sicrhau cynwysoldeb ar draws ein holl weithgareddau.

Mae canolbwyntio ar gynaliadwyedd y Gymraeg mewn byd lle mae miloedd o ieithoedd yn wynebu difodiant yn cysylltu ein nodau ag ymdrech fyd-eang i ddeall sut y gallwn newid normau ac ymddygiadau cymdeithasol – datblygiadau sy'n angenrheidiol os ydym am sicrhau cadwraeth ein hamgylchedd a'n diwylliant

Ein hymrwymiad

Rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo a dathlu'r Gymraeg yn ein holl weithgareddau a'u datblygu mewn ffyrdd sy'n cefnogi ac yn ehangu uchelgeisiau ac amcanion Y Ffordd Ymlaen sy'n ymwneud â'n cenhadaeth ddinesig, rhagoriaeth addysg ac ymchwil, recriwtio, ehangu cyfranogiad, cynaliadwyedd a'n heffaith fel actor cymdeithasol trawsnewidiol.

Rydyn ni eisiau sicrhau bod y Gymraeg yn rhan annatod o'n hunaniaeth, gweithrediadau, cymunedau ac arferion o ddydd i ddydd mewn ffordd sy'n cynnwys ein holl staff a myfyrwyr er mwyn gwireddu'r ymrwymiadau hyn.