Offer cenhedlaeth nesaf
Datblygu offer, modelau a diagnosteg i fonitro ecosystemau dŵr croyw a gwneud y gorau o reoli dalgylchoedd.
Ar yr afon Gwy mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi partneru â gwyddonwyr dinasyddion i fonitro ansawdd dŵr y dalgylch cyfan.
Gwyliwch ein fideo am weithio gyda dinasyddion-wyddonwyr.
Yn nalgylch afon Wysg mae ymchwilwyr wedi creu model amser real i wneud y gorau o lif y dalgylch. Gan ddefnyddio samplau a gasglwyd yn Afon Gwy, mae ein hecolegwyr moleciwlaidd wedi datblygu offer genetig i gynorthwyo monitro dŵr croyw a chadwraeth, ac yn nalgylch Wysg mae dilyniannu metagenomig yn cael ei ddefnyddio i ymchwilio i ymwrthedd gwrth-ficrobaidd
Ar draws dalgylchoedd Gwy ac Wysg rydym yn defnyddio technegau ‘computer vision’ i fonitro iechyd pysgod o ffotograffau a gasglwyd gan bysgotwyr.