Adfer natur a risgiau sy'n dod i'r amlwg
Am fwy na phedwar degawd rydym wedi bod yn ymchwilio i ecosystemau afonydd Gwy ac Wysg.
Mae'r Arsyllfa yn ffynhonnell allweddol o dystiolaeth i archwilio newid. Mae gennym ddata ac arbenigedd ar ystod eang o organebau dŵr croyw o fiofilm, parasitiaid ac infertebratau, i gimwch yr afon, adar a dyfrgwn.
Gellir defnyddio ein hymchwil i asesu risgiau pwysau dŵr croyw, arfarnu rheolaeth dalgylch a gwerthuso ymdrechion adfer natur. Er enghraifft, yn 2017, cyfrannodd data Prosiect Dyfrgwn ar gysylltedd genetig dyfrgwn ar draws afonydd Wysg a Gwent at ymchwiliad cyhoeddus ffordd liniaru’r M4.
Yn afonydd Gwy ac Wysg rydym wedi ymchwilio i gysylltiadau rhwng llygredd dŵr croyw a dŵr gwastraff, a defnyddiau tir trefol a gwledig. Datgelodd ymchwiliadau diweddar i lygredd plastig fod 50% o bryfed yn y dalgylchoedd hyn yn cynnwys ffibrau plastig.