Cynaliadwyedd dalgylch
Mae dalgylchoedd afonydd yn darparu gwasanaethau ecosystem sy'n cynnal cymunedau a bywoliaethau.
Mae unigolion yn rhyngweithio ag afonydd mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft, gall yr un person fod yn ddefnyddiwr dŵr, yn llygrwr, ac yn defnyddio ei afon leol ar gyfer hamdden. Mae ein hymchwilwyr yn ceisio deall y rhyngweithiadau cymhleth rhwng systemau naturiol a chymdeithasol yn nalgylchoedd Gwy ac Wysg.
Prosiectau Cysylltiedig:
Mae gwyddoniaeth dinasyddion yn chwarae rhan bwysig wrth ddeall systemau afonydd. Mae data a gasglwyd gan wirfoddolwyr ymroddedig yn ategu’r ymchwil hirdymor a gynhaliwyd gan academyddion o Brifysgol Caerdydd, sydd wedi bod yn astudio dalgylchoedd afonydd Gwy ac Wysg ers dros bedwar degawd.
Archwiliwch ein hadnoddau ar gyfer grwpiau gwyddoniaeth dinasyddion: