Ewch i’r prif gynnwys

Data a chyfleusterau

Mae ein hacademyddion wedi bod yn casglu data ar ddalgylchoedd afonydd Gwy ac Wysg ers dros bedwar degawd o’r tarddiad i’r aber, trwy gronfeydd dŵr, ardaloedd amaethyddol a threfol. Rydym hefyd yn cydweithio â dinasyddion-wyddonwyr i fonitro ansawdd dŵr a charcasau dyfrgwn yn llwyddiannus.

Setiau data

Ansawdd dŵr Gwyddoniaeth Dinesydd

Ansawdd dŵr gan gynnwys arsylwadau ffisegol, cemegol a chyffredinol a gasglwyd gan ddinasyddion-wyddonwyr. Wedi dechrau yn 2021 mae dinasyddion-wyddonwyr gyda hyfforddiant gan wyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn casglu data ansawdd dŵr amledd uchel e.e. ffosffad, nitrad, cymylogrwydd, dargludedd a thymheredd.

Data a gasglwyd ac sydd ar gael gan:

  • Ymgyrch Diogelu Lloegr Wledig
  • Cymdeithas Eogiaid Gwy
  • Cyfeillion y Lugg
  • Cyfeillion Gwy Uchaf

Cysylltiadau allweddol

Cimwch yr Afon a pharasitiaid

Nifer yr achosion o barasitiaid cimwch yr afon mewn cimwch yr afon signal ymledol a chimwch yr afon crafanc wen frodorol (2009-2014).

Cyswllt allweddol

Picture of Joanne Cable

Yr Athro Joanne Cable

Pennaeth Organeddau ac Is-adran yr Amgylchedd

Telephone
+44 29208 76022
Email
CableJ@caerdydd.ac.uk

Data dilyniannu metagenomig o samplau dŵr

Cyswllt allweddol

Bioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystem

Ymchwil Steve Ormerod o’r 1980au yn ymwneud â bronwen y dŵr, infertebratau ac asidedd. Prosiect Cynaliadwyedd Gwasanaeth Ecosystemau (DURESS) (2012-15) Amrywiaeth mewn Afonydd Ucheldir a ariannwyd gan NERC. Mae setiau data’n cynnwys cemegolion (1981-2013), tiriogaethau adar (trochwyr a siglennod llwyd, 2007-2010), hyd a phwysau pysgod (2013-15), digonedd o infertebratau (1981-2012), isotopau sefydlog (2008), cyfraddau ffotosynthetig biofilm (2013), ansawdd dŵr (2013) a data safle cysylltiedig

Cyswllt allweddol

Picture of Isabelle Durance

Yr Athro Isabelle Durance

Athro a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr

Telephone
+44 29208 74484
Email
Durance@caerdydd.ac.uk

Ansawdd dŵr ar gyfer cyflenwad dŵr

Sbardunau blodau algaidd a’u heffaith ar wydnwch cyflenwad dŵr oherwydd sychder yng nghronfa ddŵr Landegfedd a llyn Syfaddan

Cyswllt allweddol

Cyfleusterau

Synwyryddion ansawdd dŵr o bell

Gosodwyd sondes ansawdd dŵr yn 2021 a 2022 i fesur tymheredd, lefel, dargludedd, pH, ocsigen toddedig a nitrad. Adroddir data amser real bob pedair awr i Hydrovu.com

Archif meinwe dyfrgwn

Cynllun gwyliadwriaeth amgylcheddol hirdymor (1994- presennol), yn defnyddio dyfrgwn a ganfuwyd yn farw i ymchwilio i gemegau bia-gronnus, afiechyd, a bioleg poblogaeth ar draws y DU. Archif o feinweoedd dyfrgwn a data cysylltiedig ar gael ar gyfer ymchwiliadau pellach. Roedd ymchwil yn ymwneud â dyfrgwn ar wastadeddau Gwent yn sail i benderfyniadau adeiladu ffyrdd.

Darllenwch fwy am y Prosiect Dyfrgwn.

Cyswllt allweddol

Model rheoli dŵr amser real cronfa ddŵr Wysg

System ddadansoddeg ddeallus ar gyfer rheoleiddio dalgylch amser real a rheoli dŵr. Gall y model ragweld lefel y dŵr yn y 5 diwrnod nesaf.

Cyswllt allweddol

Arbenigedd ar draws y rhanbarth

Cyfraith amgylcheddol

Perchnogaeth eiddo glan afon a hawliau cyfraith gwlad

Picture of Ben Pontin

Yr Athro Ben Pontin

Athro yn y Gyfraith a Phennaeth y Gyfraith

Telephone
+44 29208 76718
Email
PontinB@caerdydd.ac.uk

Economi

Ynni, seilwaith, gwerth economaidd twristiaeth, costau a manteision ymyriadau amgylcheddol.

Picture of Maxim Munday

Yr Athro Maxim Munday

Director of Welsh Economy Research Unit

Telephone
+44 29208 75089
Email
MundayMC@caerdydd.ac.uk