Amdanom ni
Mae ein hymchwil hirdymor yn Gwy ac Wysg yn darparu tystiolaeth ar gyfer rheoli dyfroedd croyw yn ogystal â datblygiadau ehangach mewn gwybodaeth systemau cyfan.
Mae'r data a'r cyfleusterau a gesglir yma yn deillio o brosiectau ymchwil lluosog dros 40 mlynedd, o brosiectau bach dan arweiniad myfyrwyr i fentrau consortiwm mawr. Gan dynnu o bartneriaethau lleol a rhyngwladol, mae’r Arsyllfa Gwy ac Wysg hon yn gyfle i rannu gwybodaeth ar draws disgyblaethau a sectorau.
Bob blwyddyn mae'r Arsyllfa yn cynnal prosiectau ymchwil o israddedigion i gymrodyr ôl-ddoethurol. Dechreuon ni gasglu data yn yr 1980au, sy'n galluogi dadansoddi tueddiadau hanesyddol. Rydym yn awyddus i archwilio ffyrdd newydd o ddefnyddio ein data a’n cyfleusterau.