Adran Bywyd Gwyllt Sabah
Prosiect cadwraeth sy'n gwarchod rhai o rywogaethau Borneo sydd fwyaf dan fygythiad drwy weithio'n agos gyda'r llywodraeth i amddiffyn cynefinoedd y goedwig law.
Amddiffyn rhywogaethau sydd mewn perygl
Am dros ddegawd, mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn cydweithio ag Adran Bywyd Gwyllt Sabah i nodi a gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd yn nhirweddau rhanedig iawn sy'n llawn palmwydd olew ar orlifdir Kinnabatangan - y gwlypdir mwyaf yn Sabah, Borneo Malaysia.
Dechreuodd y prosiect fel arolwg maes a gwaith ecolegol ar anifeiliaid sydd mewn perygl - gan gynnwys banteng Borneaidd, eliffant Borenaaidd, y mwnci proboscis a llewpard cymylog Sunda gan arwain at Gynlluniau Gweithredu Gwladwriaethol deng mlynedd a pholisiau clodwiw i amddiffyn coedwigoedd glaw .
Dan arweiniad yr Athro Benoît Goossens,Ysgol y Biowyddorau, mae'r bartneriaeth yn canolbwyntio ar Ganolfan Maes Danau Girang yn Sabah, lle mae'r Athro Goossens bellach yn Gyfarwyddwr.
Cadw cynefin coedwig law prin
Arweiniodd arolygon poblogaethau rhywogaethau cychwynnol at weithdai a chynadleddau rhyngwladol, sydd yn eu tro wedi arwain at waith uniongyrchol gyda'r llywodraeth ar gadwraeth y coedwigoedd glaw, ac Aildyfu Borneo yw'r un mwyaf nodedig - prosiect cydbwyso carbon cyntaf y DU – ym mis Hydref 2019.
Eleni, mae partneriaeth â Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd, Aildyfu Borneo eisoes wedi codi bron i £20,000 ar gyfer plannu coed yn y Kinabatangan Isaf a fydd yn cydbwyso'r carbon a grëwyd drwy deithio yn yr awyr, yn gwella bioamrywiaeth ac yn cefnogi cadwraeth ecolegau lleol yn ogystal â chynnal bywoliaethau a diwylliant lleol.
Mae Canolfan Maes Danau Girang wedi croesawu mwy na 55 o fyfyrwyr o 30 o brifysgolion rhyngwladol, cynnal dros 82 o gyrsiau maes, sicrhau £3.5miliwn mewn cyllid grant, cynhyrchu 16 o ysgoloriaethau PhD ac mae wedi cynhyrchu dros 120 o gyhoeddiadau academaidd.