Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)
Mae ein partneriaeth strategol gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn rhoi pwyslais cryf ar ddatblygu sgiliau, llwybrau gyrfa a chreu cyfleoedd i raddedigion sydd â manteision i'r ddau sefydliad.
Wedi'i lansio ym mis Gorffennaf 2019, mae'r bartneriaeth yn ategu nodau strategol y naill sefydliad fel y llall, yn enwedig o ran datblygu cyfleoedd i gynhyrchu incwm ymchwil, partneriaethau sydd o fudd i’r ddau sefydliad, lleoliadau gwaith i fyfyrwyr a staff, a recriwtio graddedigion. Ar ben hynny, bydd y sgiliau a’r adnoddau ar draws y Brifysgol yn ategu nodau strategol allweddol ONS o ran arloesi a chwyldroi’r defnydd o ddata er budd y cyhoedd a datblygu sgiliau ei staff.
Fel dau o'r cyflogwyr mwyaf yn y rhanbarth, rydym wedi ymrwymo i greu effaith gymdeithasol ac economaidd trwy ein partneriaeth strategol gyda'r ONS, oherwydd ymdeimlad cryf o le a chenhadaeth ddinesig.
Nodau ac amcanion
Mae ein partneriaeth yn canolbwyntio ar 5 thema strategol allweddol:
Gwyddorau Data: Cydweithio i ddatblygu rhaglen gyfannol o weithgaredd ar gyfer gwyddor data, ystadegau ac arloesedd data, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd ac ONS, ac i Gaerdydd a De Cymru gael ei ystyried yn gartref i wyddor data a pholisi cyhoeddus.
Deallusrwydd Economaidd: cynorthwyo ONS i fynd i'r afael â'r materion allweddol yn economi'r DU a gwella gallu economaidd; gwneud defnydd effeithiol o ystadegau, arbenigedd a ffynonellau data ONS ar faterion sy'n ymwneud â mesur yr economi a chasglu a chyflwyno data economaidd ar gyfer y DU, a; cynyddu nifer yr academyddion a'r myfyrwyr sy'n defnyddio ac yn nodi ystadegau economaidd ONS.
Heneiddio'n Iach: cynorthwyo i ddod ag academyddion Caerdydd ynghyd sydd ag arbenigedd yn y maes hwn o Sefydliadau Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl a Sefydliadau Ymchwil Dementia yn ogystal â'r Gwyddorau Cymdeithasol; cyflwyno ffyrdd i alinio gweithgaredd cydweithredol gyda'r ONS ar heneiddio'n iach, mentrau a rhaglenni, gan gynnwys cymryd rhan gyda sefydliadau eraill fel GIG Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Byrddau Iechyd Prifysgol.
Effaith Ranbarthol: cefnogi arloesedd rhanbarthol wrth helpu i ddatgloi'r sector cyhoeddus fel ased sylweddol yng Nghymru a thrwy fentrau rhanbarthol eraill sy'n gysylltiedig â'r agenda polisi cyhoeddus ehangach; i weithio ar y cyd ag ONS i symud o arsylwi i ateb y cwestiynau mawr trwy gysylltu data gyda'i gilydd yn well.
Sgiliau ac Addysg: cynyddu cyfnewid gwybodaeth ar draws ONS a Phrifysgol Caerdydd gyda mwy o gyd-greu a chydleoli trwy fecanweithiau ffurfiol fel secondiadau, lleoliadau, recriwtio, aelodaeth o fyrddau cynghori a phwyllgorau yn ogystal â meithrin perthnasoedd anffurfiol a rhannu gwybodaeth; darparu piblinell dalent ar gyfer ONS a hyfforddiant a datblygiad ar gyfer staff a myfyrwyr presonnol ONS.
Arweinwyr thema
Mae'r academyddion canlynol yn helpu i lywio a datblygu cyfleoedd ar y cyd â chymheiriaid ONS.
Rôl / Thema | Arweinwyr thema Prifysgol Caerdydd | Ysgol/Sefydliad | Arweinwyr thema ONS |
---|---|---|---|
Cyd-gadeirydd | Paul Harper | Sefydliad Ymchwil Arloesedd Data / Mathemateg | Kate Davies |
Dirprwy Gyd-gadeirydd | Jon Gillard | Mathemateg | Craig McLaren |
Gwyddorau Cymdeithasol/SPARK | Chris Taylor | sbarc | spark | Ed Dunn |
Datblygu Busnes | Julie Gwilliam | Ysgol Pensaernïaeth Cymru | Tom Carr |
Themâu strategol
Rôl / Thema | Arweinwyr thema Prifysgol Caerdydd | Ysgol/Sefydliad | Arweinwyr thema ONS |
---|---|---|---|
Gwyddorau Data | Padraig Corcoran Crispin Cooper | Computer Science & Informatics Daearyddiaeth a Chynllunio | Jasmine Grimsley Yanitsa Scott |
Deallusrwydd Economaidd | Melanie Jones Maggie Chen | Busnes Mathemateg | Ed Palmer Richard Heys |
Heneiddio’n Iach | Andrew Lawrence Kelly Morgan | Seicoleg Gwyddorau Cymdeithasol | David Ainslie Angele Storey |
Effaith Ranbarthol | Rhys Davies James Lewis | WISERD/Gwyddorau Cymdeithasol Y Lab/ Gwyddorau Cymdeithasol | Craig McLaren Kate Davies |
Addysg a Sgiliau | Andreas Artemiou Patrick W.Saart | Mathemateg Busnes | Jasmine Kelly Mandy Beasley |
Rheolwr y Bartneriaeth | Audra Smith | Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi | Rachel Adams |
Prosiectau cydweithredol
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau ynghylch y bartneriaeth, cysylltwch â Rheolwr Partneriaeth y Brifysgol,
Audra Smith:
02922 510554.
Audra Smith
Strategic partnerships manager
Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.