Ewch i’r prif gynnwys

MedaPhor

Cwmni deillio sy’n cynhyrchu cynhyrchion hyfforddiant arloesol ar gyfer gweithwyr proffesiynol meddygol ôl-raddedig ledled y byd.

Dulliau hyfforddi newydd

Medaphor

Mae MedaPhor Group Plc yn gwmni deillio a gafodd ei sefydlu gan Brifysgol Caerdydd o syniad gan dîm o glinigwyr a gwyddonwyr cyfrifiadurol, gyda’r bwriad o greu cwmni hyfforddiant uwchsain o’r radd flaenaf gyda rhagoriaeth addysgol wrth ei wraidd. Gyda chymorth ei bartner masnacheiddio, IP Group (Fusion IP) a’n tîm Trosglwyddo Technoleg, mae’r cwmni wedi datblygu a lansio dyfais sy’n rhoi sylw i’r prinder o seingraffwyr cymwys, drwy ddefnyddio dulliau hyfforddi ar ffurf gêm gyfrifiadurol a thechnoleg animeiddio arloesol.

Mae’r ScanTrainer chwyldroadol yn cynnig datrysiad soffistigedig, cyflym ac effeithiol i hyfforddi, gan ddileu’r angen i hyfforddeion ymarfer eu sgiliau mewn sesiynau byw gyda chleifion. Yn hytrach na hynny, ceir dyfais symudol, debyg i declyn rheoli gêm ac, yn dibynnu ar sut mae’n cael ei thrin, mae’r ddyfais hon yn cynhyrchu delweddau uwchsain o rannau penodol yn y corff dynol. Mae’r amgylchedd rhithwir hefyd yn caniatáu gwneud tasgau sydd yn debyg iawn i’r rheiny sy’n cael eu cynnal yn ystod sesiynau uwchsain byw ac yn rhoi adborth ar berfformiad ar unwaith i ddefnyddwyr.

Gan gydweithio’n amlddisgyblaethol, gyda thîm yr Ysgol Feddygaeth yn cychwyn y cysyniad ar gyfer yr efelychydd, ac yn cynllunio’r cynnwys addysgol i gyd-fynd â gofynion y cwricwlwm hyfforddi uwchsain cenedlaethol, a thîm o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg sydd wedi gweithio’n agos gyda’r cwmni, gan ddysgu anatomeg ddynol a methodoleg uwchsain er mwyn datblygu system ryngweithiol unigryw gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ym maes technoleg efelychu.

Mae gwasanaethau efelychu meddygol yn parhau i dyfu'n gyflym a chredwn fod gan ein cynnyrch y potensial i'n gwneud yn chwaraewr mawr yn sector uwchsain y farchnad gyffrous hon. Mae symud i AIM yn rhoi'r gefnogaeth a'r gwelededd i ni gyflawni ein strategaeth twf

Stuart Gall, Prif Swyddog Gweithredu MedaPhor Group plc

Twf rhyngwladol

Ers 2007 mae MedaPhor wedi codi dros £6.7 miliwn o arian buddsoddi gan Fusion IP, Cyllid Cymru, IP Group, Arthurian Life Sciences Fund, Cardiff Capital a chyfarwyddwr sefydlu. Mae’r cwmni wedi cynyddu ei ystod ScanTrainer gydag efelychydd traws-abdomenol, wedi’u targedu ar gyfer marchnadoedd mawr obstetreg a gynaecoleg, meddygaeth gyffredinol, a meddyginiaeth mewn argyfwng.

Mae MedaPhor bellach yn cynhyrchu gwerthiannau yn yr holl brif farchnadoedd meddygol byd-eang ac edrychwn ymlaen at ei dwf parhaus.

David Baynes, Prif Swyddog Gweithredu, IP Group plc

Yn dilyn lansiad y ScanTrainer yn 2010, mae MedaPhor wedi gwerthu’r cynnyrch ledled y byd, gan gynnwys y DU, Ewrop, Awstralia, y Dwyrain Canol a’r Unol Daleithiau ac yn fwy diweddar maen nhw wedi ehangu eu gwerthiant i Tsiena, trwy gytundeb dosbarthu mawr gyda Tellyes Scientific. Gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd ac yn yr Unol Daleithiau, bellach mae gan y cwmni dros 34 o weithwyr ac mae wedi gwerthu dros 120 o systemau i ysbytai mawr ledled y byd, gyda gwerthiant yn codi i £1.8M yn 2014.

MedaPhor oedd y trydydd cwmni portffolio IP Group i gyhoeddi cyfrannau’r cwmni ar farchnad AIM Cyfnewidfa Stoc Llundain ym mis Awst 2014, gan godi £4.7 miliwn gan fuddsoddwyr sefydliadol am ei gyfrannau. Ar hyn o bryd mae ganddo gyfalaf marchnad gwerth £10.1 miliwn. Bydd elw net o fynd ar yr AIM yn cael ei ddefnyddio’n bennaf i ehangu rhwydwaith gwerthiant byd eang a datblygu platfform y ScanTrainer ymhellach mewn marchnadoedd ategol.