Gwasanaethau Arloesol y Dyfodol
Rydym ni’n helpu gweithwyr y sector cyhoeddus i ddatblygu sgiliau a all gefnogi cymunedau, cyflymu datgarboneiddio a gwella iechyd a lles dinasyddion yng Nghymru fel rhan o raglen Gwasanaethau Arloesol y Dyfodol (Infuse).
Ariennir y fenter £5.6 miliwn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru ac fe’i harweinir gan Gyngor Sir Fynwy mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Y Lab - Labordy Arloesi Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Bydd y rhaglen tair blynedd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol y sector cyhoeddus mewn awdurdodau lleol ar draws y Brifddinas-Ranbarth i gael mynediad at sgiliau, dulliau ac offer newydd sy'n gwella eu capasiti a'u gallu i arloesi.
Cyflwynir y rhaglen, sydd wedi’i gwreiddio mewn heriau bywyd go iawn, trwy dri 'Labordy' sydd â ffrydiau gwaith penodol:
- Y Labordy Addasu – cynorthwyo swyddogion i gynllunio a darparu arbrofion sy'n profi atebion y gellir eu hehangu i broblemau ledled y rhanbarth.
- Y Labordy Caffael - cynorthwyo swyddogion i ddysgu, datblygu a phrofi prosesau a dulliau newydd ar gyfer caffael cynhyrchion a gwasanaethau arloesol sy'n cynhyrchu gwell canlyniadau i bobl sy'n defnyddio ac yn darparu gwasanaethau yn erbyn y ddau faes thematig.
- Y Labordy Data - cynorthwyo swyddogion i gasglu, rheoli, dadansoddi, deall a gwneud defnydd mwy effeithiol o ddata wrth wneud penderfyniadau.
Carfan Alpha
Ym mis Mai 2021, 20 o weision cyhoeddus o saith awdurdod lleol yn ne Cymru oedd y garfan gyntaf i ddechrau ar raglen Infuse.
Bydd Carfan Alpha, fel y'u gelwir, yn derbyn tri mis o hyfforddiant a chefnogaeth o ran sgiliau, offer a dulliau newydd. Yn dilyn hyn ceir tri mis o hyfforddiant yn eu sefydliadau eu hunain wrth iddyn nhw fynd yn ôl i roi eu dysgu ar waith a helpu i newid dyfodol y ffordd y cyflwynir gwasanaethau cyhoeddus am flynyddoedd i ddod; gan ddatblygu arloesedd, sgiliau newydd a gwella eu gallu drwy ymdrin â heriau gwasanaeth cyhoeddus rhanbarthol gyda'i gilydd.
Infuse: y podlediad
Dr Jane Lynch sy'n cymryd golwg fanylach ar yr heriau cymdeithasol a wynebir yng Nghymru drwy siarad ag arbenigwyr blaenllaw mewn llywodraeth leol a'r sector cyhoeddus.
Gwrandewch, hoffwch a thanysgrifiwch ar Soundcloud, Spotify ac Anchor.fm.
Pobl
Cysylltu
Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am brosiect Infuse ar Twitter a LinkedIn.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â'n tîm i gael rhagor o wybodaeth am brosiect Infuse.