Cyflymydd Cenedl Ddata
Mae'r Cyflymydd Cenedl Ddata yn fenter ar gyfer Cymru gyfan. Ei nod yw cyflymu’r broses o ddysgu, rhagweld a deall gwybodaeth gan asedau data amrywiol er mwyn cael effaith ar gymdeithas, iechyd a’r economi.
Drwy gyd-greu ar draws busnesau a phartïon eraill, nod Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru yw ysgogi arloesedd o ran data a deallusrwydd artiffisial er mwyn creu datrysiadau, cynnyrch a rhaglenni newydd mewn clystyrau diwydiannol a gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Mae hefyd am geisio cyfoethogi’r gronfa dalent o sgiliau yng Nghymru ym meysydd gwyddorau data a deallusrwydd artiffisial.
Gan weithio gydag ystod o sefydliadau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, mae'r tîm Cyflymydd Cenedl Ddata ledled Cymru i ffurfio a chyd-greu rhaglen fydd o’r budd mwyaf i Gymru a’r tu hwnt. Bydd y Cyflymydd Cenedl Ddata yn targedu twf cenedlaethol mewn busnesau, buddsoddiadau a sgiliau ym meysydd gwyddorau data a thechnoleg ddigidol.
Cyfleoedd
Bydd y Cyflymydd Cenedl Ddata yn canolbwyntio ar gyfleoedd a gynigir gan asedau data unigryw, galluoedd a’r potensial sydd gennym yng Nghymru mewn cysylltiad â’r meysydd her canlynol:
- Arloesedd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus
(Deallusrwydd, effeithlonrwydd, awtomatiaeth, penderfyniadau gwell, datrys problemau mewn ffordd ddatblygedig, personoli) - Iechyd a Lles (Meddygaeth, diagnosteg ac ymyriadau manwl, systemau gofal iechyd deallus, gofal cymdeithasol drwy ddeallusrwydd artiffisial)
- Sero-net a’r Amgylchedd (Ynni a thrafnidiaeth, rheoli’r amgylchedd, economïau cylchol a gwyrdd, tai, technoleg amaethyddol)
- Gweithgynhyrchu a Systemau’r Dyfodol (Ffatri’r dyfodol, deunyddiau uwch, cydnerthedd mewn cadwyni cyflenwi, gefeilliaid digidol, gweithgynhyrchu clyfar, technoleg amaethyddol)
- Gwasanaethau Creadigol a Phroffesiynol
(Cyfreithiol, technoleg ariannol, systemau busnes, cyfryngau cymdeithasol, systemau sy’n canolbwyntio ar bobl, a chyfathrebu).
Themâu trawsbynciol
- Data, deallusrwydd a chymdeithas
- Deallusrwydd artiffisial diogel, sicr a moesegol
- Dadansoddeg y gweithlu a busnes
- Dysgu peiriannol, deallusrwydd artiffisial a gwyddorau data
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm drwy ebostio support@dna.wales.