Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Nid yw arloesedd clinigol yn gysyniad newydd i Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae gan y ddau sefydliad hanes hir o gydweithio i ddarparu gwasanaethau o safon uchel drwy arloesedd.
Mae'r Bartneriaeth Arloesedd Clinigol yn fenter greadigol sydd yn anelu at ddarparu gwell gofal i gleifion a chreu cyfoeth yng Nghymru.
Bydd y Bartneriaeth yn un ffurfiol drwy Strategaeth Arloesedd Clinigol ac yn:
- sefydlu ffordd i gefnogi syniadau i wella gofal cleifion gan weithwyr clingol, academyddion a myfyrwyr
- darparu prosesau cadarn i gefnogi syniadau sy'n arwain at gynnyrch a gwasanaethau newydd
- adeiladu ar gyfarfodydd aml-ddisgyblaethol ac elfennau cefnogol eraill i gynghori, sbarduno a gwarchod syniadau arloesol o safon.
Bydd y bartneriaeth agos yn helpu datblygu ffyrdd arloesol i hybu agweddau o ofal clinigol fydd yn helpu cleifion ledled Cymru.
Drwy fanteisio ar gyfuno arbenigedd a gweithgaredd ymchwil, mae'r ddau sefydliad yn cydweithio i wella iechyd a lles drwy ddarparu buddion economaidd ehangach.
Mae'r bartneriaeth yn anelu at daclo heriau iechyd sylweddol fel dementia sy'n gofyn am wybodaeth drylwyr o brosesau'r glefyd, diagnosis, triniaeth a materion gofal cymdeithasol. Mae cydweithio ac ymgysylltu gyda mentrau cenedlaethol yn rhan allweddol o'r strategaeth.
Astudiaethau achos
Cysylltu
Am wybodaeth bellach cofiwch gysylltu.
Partneriaeth Arloesedd Clinigol
@AccelerateCIA

Creu newid sylweddol i gyflymu'r ffordd gall arloesedd clinigol wella gwasanaethau iechyd.