Amgueddfa Cymru
Mae ein partneriaeth strategol gydag Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu ecosystemau treftadaeth rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gyfuno ein hymdrechion a'n doniau i greu effaith gymdeithasol ac economaidd.
A ninnau’n sefydliadau o bwys yng Nghymru, mae gennym hanes hir o gydweithio ag Amgueddfa Cymru ar fynd i'r afael ag ymchwil a materion dinesig a chymdeithasol. Yn gynnar yn 2023, bu i ni lofnodi partneriaeth strategol 5 mlynedd i sicrhau bod arbenigedd, profiad ac adnoddau’r ddau sefydliad yn cyd-fynd yn fwy â’i gilydd a’n bod yn cydweithio ar nodau strategol ar y cyd.
Bydd ein partneriaeth strategol yn canolbwyntio ar
- ymchwil ac arloesi
- diogelu ac adfer yr amgylchedd
- creu diwylliannau digidol a thechnolegau addasol
- sgiliau, talent a dysgu gydol oes
- sicrhau lles a chynrychiolaeth gynhwysol drwy werthfawrogi ein treftadaeth.
Nodau ac amcanion
Mae ymchwil ac arloesi yn thema alluogi strategol ar draws pob ffrwd waith ac mae ein partneriaeth yn canolbwyntio ar y prif themâu strategol canlynol:
Diwylliannau digidol a thechnolegau addasol: Mae gallu sefydliad i addasu ei dechnoleg ddigidol at y dyfodol yn elfen allweddol o ran twf a goroesi. Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i greu ffyrdd newydd o gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach sydd heb gynrychiolaeth, a hynny drwy dechnolegau digidol a chynyddu prosiectau arloesi drwy dechnolegau addasol.
Lles drwy werthfawrogi ein treftadaeth: Mae lleoedd a phrofiadau sy’n ein hysbrydoli’n hollbwysig i les unigolion a phawb. Mae ystad Amgueddfa Cymru yn drysorfa o ysbrydoliaeth ac mae gan y ddau sefydliad ymdeimlad dwfn a chryf â lle; maent yn ymfalchïo nid yn unig ym mhrifddinas Cymru, ond hefyd yn nhreftadaeth gyfoethog ein gwlad.
Cynrychioli Pawb: Gan ei bod yn cyd-fynd â chynlluniau Llywodraeth Cymru a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol, bydd y thema hon yn canolbwyntio ar sicrhau bod ymgysylltu â'r cyhoedd a'r gymuned drwy'r holl weithgareddau ar y cyd yn helpu i beri i unigolion deimlo eu bod yn perthyn, eu bod yn gallu cyfranogi i’r broses o fod yn greadigol ac yn chwilfrydig yn ogystal â chymryd rhan.
Diogelu ac adfer yr amgylchedd: Er mwyn gwneud cynlluniau sy’n cyrraedd targedau sero net ar draws ystadau’r ddau sefydliad mae gofyn am ddatblygu technoleg newydd, newid ymddygiadol a chymdeithasol yn ogystal â chwyldro yn y seilwaith i gefnogi'r newid hwn. Bydd llwyddiant yn dibynnu ar atebion sy'n seiliedig ar dystiolaeth fydd yn cyflymu’r broses o arloesi a chefnogaeth yn y ddau sefydliad, yn ogystal â dealltwriaeth newydd o ymddygiad a rheoli’r galw.
Sgiliau, talent a dysgu gydol oes: Bydd y bartneriaeth strategol yn cefnogi ymgysylltu ac iddo ragor o strwythur o ran datblygu sgiliau, cyfleoedd ar gyfer graddedigion, talent a dysgu gydol oes yn y ddau sefydliad.
Arweinwyr y themâu
Mae'r academyddion canlynol yn helpu i lywio a datblygu cyfleoedd ar y cyd â’n cydweithwyr yn Amgueddfa Cymru.
Thema | Arweinwyr thema Prifysgol Caerdydd | Arweinwyr thema Amgueddfa Cymru |
---|---|---|
Diwylliannau Digidol a Thechnolegau Addasol | Alison Harvey, Archifydd, Gwasanaethau Llyfrgelloedd y Brifysgol Dr Thomas Woolley, Yr Ysgol Mathemateg | Jess Hoare, Arweinydd Arloesi Digidol Kristine Chapman, Prif Lyfrgellydd |
Lles drwy werthfawrogi Treftadaeth | Yr Athro Bella Dicks, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Judith Ingram, Iechyd a Lles Myfyrwyr | Sharon Ford, Rheolwr y Rhaglen Iechyd a Lles |
Cynrychioli Pawb | Dr Ryan Prout, Yr Ysgol Ieithoedd Modern | Sioned Hughes, Pennaeth Hanes Cyhoeddus ac Archaeoleg, ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd a'r Gymuned |
Diogelu ac Adfer yr Amgylchedd | Dr Kersty Hobson, Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Dr Pan He, Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd | Kate Mortimer Jones, Uwch Guradur: Bioamrywiaeth Infertebratau (Infertebratau Morol) Sara Younan, Cydlynydd Ymgysylltu â Phobl Ifanc |
Sgiliau, Talent a Dysgu Gydol Oes | Yr Athro Holly Furneaux, Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Dr Liam Turner, Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg | Gemma Brown, Swyddog Datblygu Ymchwil |
Prosiectau ar y cyd
Yn y gorffennol, mae’r ddau sefydliad wedi cydweithio’n llwyddiannus ar brosiect Treftadaeth CAER, prosiectau ymarferol sy’n gysylltiedig â’r biowyddorau ar draws safleoedd Amgueddfa Cymru, a phrosiectau ymchwil megis ‘Ffoaduriaid Cymru – Bywyd wedi Trais’ a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Ymhlith y cynlluniau at y dyfodol y mae datblygu cyrsiau penodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf o raddedigion ym maes treftadaeth, creu rhagor o secondiadau ar gyfer staff yn y sefydliad arall a sicrhau bod rhagor o fyfyrwyr ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol yn ymgymryd â phrosiectau, lleoliadau gwaith ac interniaethau.
Ceir cynlluniau hefyd i ddatblygu’r genhadaeth ddinesig newydd yn ogystal â gweithgareddau ehangu cyfranogiad, arddangosfeydd ymdrochol a rhyngweithiol a phrosiectau yn y gymuned sy'n ymdrin â materion cymdeithasol o bwys, cydweithio â chymunedau lleol ar ddigwyddiadau ac arddangosfeydd sy'n berthnasol i'w hardal leol.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi ymholiadau neu gwestiynau am y bartneriaeth, cysylltwch â Rheolwr Partneriaeth y brifysgol:
Audra Smith
Strategic partnerships manager
Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.