Ewch i’r prif gynnwys

Airbus

Mae cydweithredu mewn ffordd arloesol wedi arwain at greu Canolfan Ragoriaeth Airbus mewn Dadansoddeg Seiberddiogelwch – y ganolfan gyntaf o’i math yn Ewrop.

Mynd i'r afael â seiberddiogelwch byd-eang

Airbus cyber bodyguards at work

Mae seiberddiogelwch yn broblem fyd-eang sy'n effeithio ar bob sefydliad, ac mae angen atebion ar raddfa fyd-eang. Mae Prifysgol Caerdydd yn rhan o ecosystem Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ffyniannus sy’n tyfu yng Nghymru. Dan arweiniad yr Athro Pete Burnap, mae ymchwil flaenllaw i ddadansoddeg seiber yn cael ei gwneud rhwng disgyblaethau ac yn y diwydiant, mewn partneriaeth ag Airbus.

Nod Canolfan Ragoriaeth Airbus mewn Dadansoddeg Seiberddiogelwch yw rhoi’r DU mewn sefyllfa strategol lle mae’n arweinydd ym maes dadansoddeg seiberddiogelwch. A hithau’n gweithio ar draws y byd academaidd, y diwydiant a'r llywodraeth i fynd i'r afael â’r heriau sy'n dod i'r amlwg mewn cysylltiad â seiberddiogelwch, y Ganolfan yw'r lle i fynd i ddefnyddio gwyddor data a deallusrwydd artiffisial er mwyn deall bygythiadau seiber.

Yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, mae ymchwilwyr ac arbenigwyr o Airbus yn gwneud astudiaethau ar ddysgu peirianyddol, dadansoddeg data a deallusrwydd artiffisial i nodi ymosodiadau seiber. Mae arbenigedd yn deillio o feysydd cyfrifiadureg, gwyddor data, troseddeg a chysylltiadau rhyngwladol, ar draws sawl Ysgol yn y Brifysgol.

Mae Cymru’n rhan hanfodol o waith Airbus yn fyd-eang, ac mae’n addas bod arloesedd ym maes seiberddiogelwch yn ne Cymru’n chwarae rôl mor hollbwysig yn y gwaith o ddiogelu ein busnes helaeth. Mae Airbus wedi meithrin cysylltiadau ardderchog â Llywodraeth Cymru a phrifysgolion fel Prifysgol Caerdydd dros lawer o flynyddoedd. Rwyf wrth fy modd y bydd hyn yn arwain at fwy o gydweithredu ac yn rhoi CyberLab yng Nghasnewydd ar flaen y gad o ran deall sut y bydd deallusrwydd artiffisial yn trawsnewid seiberddiogelwch

Dr Kevin Jones, Prif Swyddog Diogelwch Gwybodaeth Grŵp, Airbus

Model o arfer da

Mae'r Ganolfan wedi cyhoeddi gwaith mewn cynadleddau a chyfnodolion o safon fyd-eang. Mae ganddi hanes PhD cryf ac wedi sicrhau incwm grant o fwy na £7.8 miliwn i gefnogi ei gweithgarwch.

Mae hefyd wedi creu Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth sy'n cefnogi’r gwaith o ddatblygu ffyrdd newydd o nodi ymosodiadau seiber drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial. Mae dulliau ac offer newydd wedi’u creu er mwyn eu defnyddio at ddibenion modelu risgiau mewn ffordd deinamig ac mewn amser real a chreu un o gwmnïau deillio Airbus, sydd bellach yn amddiffyn seilwaith cenedlaethol hynod o bwysig. Mae hyn yn gwneud ymchwil flaenllaw’r Ganolfan i waith ddosbarthu maleiswedd, ar sail gwaith proffilio DNA ymddygiadol drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, yn rhan o Ganolfan Gweithrediadau Diogelwch Airbus.

Mae'r Ganolfan wedi ennyn cryn dipyn o sylw, yn y diwydiant ac yn wleidyddol, ac mae Llywodraeth y DU yn aml yn ei chydnabod yn fodel o arfer da ar gyfer arloesi rhwng y diwydiant a'r byd academaidd, gan gynnwys cyflwyno tystiolaeth yn ysgrifenedig ac ar lafar ar y bygythiadau seiber sy'n gysylltiedig â rhwydweithiau cymdeithasol ar-lein i’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref yn San Steffan.