Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio â chyflenwyr

A hithau’n sefydliad sector cyhoeddus, mae Prifysgol Caerdydd yn dilyn Polisi Caffael Cyhoeddus wrth gontractio ar gyfer nwyddau, gwaith a gwasanaethau.

Mae Gwasanaethau Caffael y Brifysgol yn cefnogi ac yn hwyluso prosesau yn unol â’i Pholisi Caffael. Mae ein gwasanaeth caffael rhagorol yn cynnig gwerth am arian ac arloesi wrth sicrhau atebion cyfrifol a chynaliadwy.

Mae'r Gwasanaethau Caffael wedi ymrwymo i gyfrannu at sicrhau bod Prifysgol Caerdydd  yn cyrraedd ei thargedau lleihau allyriadau. Felly, rydyn ni’n ymdrechu i gynnal pob caffaeliad yn gyfrifol a sicrhau gwerth am arian yn ogystal â sicrhau'r effaith Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu gorau posibl trwy gydol cylch bywyd y cynnyrch/gwasanaeth sydd wedi'i gaffael.

Atgoffir cyflenwyr, cyn i unrhyw nwyddau gael eu danfon neu ddechrau ar waith a gwasanaethau, y dylen nhw fod wedi derbyn Rhif Archeb dilys gan Brifysgol Caerdydd, oni bai eu bod yn cael eu talu drwy daliad Cerdyn Prynu. Gall methu â gwneud hynny arwain at oedi cyn i daliadau gael eu gwneud.

Caffael Cyfrifol

Mae ein Polisi Caffael Cyfrifol a’n Cod Ymddygiad Cyflenwyr newydd yn nodi ein gweledigaeth i greu dyfodol sy’n gynhwysol, cyfrifol a gwydn ac i ddod â buddion ESG i'r Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys gostwng allyriadau Cwmpas 3, arferion llafur teg yn ein cadwyn gyflenwi, a chydymffurfiaeth reoleiddiol a pholisi.

Cyfleoedd i sicrhau contract

Mae cyfleoedd i gyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu waith i'r Brifysgol gyda chyfanswm gwerth contract o fwy na £30,000 gan gynnwys TAW yn cael eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru.

Rydyn ni’n eich annog yn gyflenwr i gofrestru ar GwerthwchiGymru. Mae’r manteision yn cynnwys:

  • cofrestru a mynediad at y safle yn rhad ac am ddim
  • defnyddio Buyer Search i hyrwyddo eich cwmni i brynwyr
  • neges e-bost o gyfleoedd sy’n cyd-fynd â’ch busnes
  • chwiliad sector cyhoeddus a hysbysiadau is-gontractio
  • cyfleoedd i gysylltu â sefydliadau yn y sector cyhoeddus a sefydliadau cofrestredig
  • mynediad at adnoddau i helpu drwy roi pris a thendro

Cofrestrwch yn erbyn y categorïau perthnasol i’r nwyddau, gwasanaethau neu waith mae eich cwmni yn eu cyflenwi, fel eich bod yn derbyn hysbysiadau am gyfleoedd contract perthnasol yn unig.

Telerau ac Amodau Prifysgol Caerdydd

Telerau ac amodau safonol y Brifysgol ar gyfer prynu nwyddau a wasanaethau, neu gyflogi ymgynghorwyr (a gefnogir gan Ddatganiad o Waith) fydd y cytundeb cyfan ar gyfer archebion prynu, ac eithrio lle mae’r Brifysgol a’r cyflenwr wedi llofnodi cytundeb ysgrifenedig ar wahân.

Rydyn ni’n diweddaru ein dogfennau Telerau ac Amodau ar hyn o bryd. Bydd fersiynau Cymraeg o'r dogfennau hyn yn cael eu cwblhau cyn bo hir a'u llwytho i'n gwefan.

Cymorth pellach

Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi'i hachredu â'r Siarter Busnesau Bach. Maen nhw hefyd yn cynnig rhaglen 12 wythnos sydd wedi'i chynllunio i fod yn hyblyg ochr yn ochr â gwaith amser llawn. Bydd y rhaglen hon yn cefnogi arweinwyr busnesau bach i ddatblygu sgiliau strategol gyda 12 modiwl allweddol. Gan edrych ar amrywiaeth o sgiliau, bydd y modiwlau hyn yn eu helpu i ddatblygu cynllun busnes cynaliadwy wedi’i deilwra i ddatblygu’r busnes i’w lawn botensial. O ran costau i arweinwyr busnes, mae'r rhaglen wedi’i hariannu 90% gan Lywodraeth y DU - gan gostio dim ond £750 i berchnogion busnes am y rhaglen lawn.

Gweithio gydag arbenigwyr y diwydiant i ddysgu sut i wella eich sgiliau rheoli a strategol, datblygu eich datganiad gwerth a sicrhau bod eich arferion busnes, eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau yn arloesol, tra’n gwella dulliau o ymgysylltu â gweithwyr. Byddwch chi hefyd yn deall sut i ddatblygu gwytnwch ar gyfer ergydau economaidd y dyfodol drwy gymorth gwell o ran y farchnad, cymorth ariannol a chymorth technolegol. Byddwch yn manteisio’n bellach ar fentora un-i-un, mentora cymheiriaid ac mae rhwydwaith unigryw o gyn-fyfyrwyr hefyd ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r Siarter Busnesau Bach neu’r dudalen Helpu i Ehangu ac i gofrestru ewch i Helpu i Ehangu.

Mae Busnes Cymru yn cynnig cymorth busnes i bobl sy'n dechrau, yn rheoli ac yn tyfu busnes. Mae eu cymorth i fusnes yn cynnwys gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar-lein, dros y ffôn drwy Linell Gymorth Busnes Cymru, ac wyneb yn wyneb drwy ganolfannau Busnes Cymru.

Mae Busnes Cymru yn cynnig cefnogaeth contract a thendr ar gyfer busnesau bach a chanolig yn benodol. Mae ymgynghorwyr tendro wedi’u lleoli ar ledled Cymru ac yn gweithio gyda busnesau bach a chanolig a'r trydydd sector i ddatblygu eu gallu, rhedeg gweithdai a helpu i gwblhau dogfennau tendro.

Am wybodaeth bellach am dendro, ewch i Busnes Cymru.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae’r Gwasanaethau Caffael hefyd yn ymfalchïo mewn helpu ymdrechion amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant y Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys:

  • cael ein hachredu gyda Gwobr Siarter Efydd Athena Swan ac rydyn ni’n gweithio tuag at dderbyn y wobr Arian, sef cynllun achredu nod siarter cydraddoldeb sy’n annog dilyniant cydraddoldeb rhywedd mewn sefydliadau Addysg Uwch a Sefydliadau Ymchwil.
  • cymryd rhan ym mhenderfyniad y Brifysgol o fabwysiadu ymagwedd groestoriadol at Athena Swan i ystyried sut mae gormes Hil a Rhyw yn croestorri, ac rydyn ni hefyd wedi gwneud cais am y Nod Siarter Cydraddoldeb Hil.
  • statws Prifysgol Noddfa, sy’n cydnabod ein harferion da wrth groesawu, cefnogi a grymuso pobl sy'n ceisio noddfa.
  • bod yn rhan o Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2024 ac wedi ein hachredu gyda gwobr arian ar gyfer cynhwysiant LHDTC+.
  • ymwneud â rhwydwaith staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws + (LHDTCRhA+) o'r enw Enfys – rydyn ni hefyd yn hapus i gynnwys staff o gyflenwyr nad oes ganddyn nhw eu rhwydwaith staff eu hunain i gymryd rhan yn ein digwyddiadau rhwydweithio drwy gydol y flwyddyn

I gael eich cynnwys ar restr e-bost Enfys anfonwch eich cyfeiriad e-bost cyswllt at enfys@caerdydd.ac.uk a byddwn ni’n sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Mae'r holl wybodaeth a anfonir at y rhwydwaith yn cael ei thrin yn gyfrinachol.

Caethwasiaeth Fodern

Rydyn ni wedi ymrwymo i nodi arwyddion o gaethwasiaeth fodern yn ein cadwyn gyflenwi, a bob blwyddyn rydyn ni’n cyhoeddi datganiad ynghylch caethwasiaeth fodern.

Mae canllawiau'r Swyddfa Gartref yn rhoi gwybodaeth glir a chyfredol ynghylch ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern.

Cyswllt

Gwasanaethau Caffael