Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Ffocws Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yw cefnogi gwaith prawf cysyniad a dangos dichonoldeb dulliau ymchwil neu syniadau penodol.
Mae'r cyfrif hwn bellach yn ariannu prosiectau drwy'r Cyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni.
Mae ein prosiectau'n cyflymu allbynnau ymchwil er mwyn iddynt gael eu defnyddio gan ddefnyddwyr terfynol drwy droi ymchwil ffiseg a seryddiaeth yn weithgareddau sy'n cael effaith ar raddfa hygyrch ac ar lawr gwlad. Rydym wedi ymrwymo i ehangu sut rydym yn deall y bydysawd – o'r agwedd leiaf i ddimensiynau seryddol.
Nodau
- cefnogi’r gwaith o droi allbynnau ymchwil yn dechnolegau, prosesau a dulliau arloesol ar gam cynnar
- deall anghenion marchnad yr ymchwil a wnawn i gynyddu ymgysylltiad â pholisïau, y diwydiant a chymunedau ledled y byd
- ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr i ddilyn gyrfaoedd mewn pynciau gwyddonol a thechnolegol
Cyllid
Yn rhan o Gyfrif Sbarduno Effaith Wedi’i Gysoni (H-IAA) Prifysgol Caerdydd, cynhelir cynlluniau Cynllun Lleoliadau a Secondiadau Cyfnewid Gwybodaeth (KEPS), Cyllid Effaith Strategol (SIF), a Cyllid Dilynol (FoF) yn unol ag IAA yr STFC.
Astudiaethau achos
Arweinydd Strategol
Yr Athro Marc Pera Titus
Cadeirydd mewn Cemeg Catalytig Cynaliadwy a Chyfarwyddwr Rhyngwladol