Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrif Sbarduno Effaith (IAA) y Cyngor Ymchwil Feddygol

Bydd Cyfrif Cyflymu Effaith (IAA) y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) yn cefnogi ystod eang o brosiectau sydd â photensial masnachol cryf, a hynny er mwyn i'r byd allu mynd i'r afael â phroblemau o bwys mawr drwy gynnig atebion arloesol, gan gyflymu a sicrhau'r effaith a’r budd mwyaf posibl i gleifion.

Mae'r cyfrif hwn ar hyn o bryd yn ariannu prosiectau drwy'r Cyfrif Sbarduno Effaith wedi'i Gysoni.

Mae IAA y Cyngor Ymchwil Feddygol yn ychwanegu at y £3 miliwn o gyllid blaenorol i'r brifysgol (rhwng 2014 to 2022) drwy gynlluniau ‘Hyder yn y Cysyniad’ ac ‘Agosrwydd at Ddarganfod’ y Cyngor Ymchwil Feddygol.

Mae gweithio’n rhyngddisgyblaethol wrth wraidd ein hymchwil a diben penodol yr IAA yw annog prosiectau ar y cyd rhwng prifysgolion, y GIG a byd diwydiant, a hynny er mwyn canolbwyntio ar ddefnydd clinigol a hyfywedd masnachol. Mae hyn yn sail i'n portffolio trosi clinigol a'i botensial o ran trosi.

Rydyn ni wedi ymrwymo i wella iechyd pobl drwy ymchwil darganfod meddygol ar y cyd sy'n diwallu anghenion clinigol sydd heb eu diwallu hyd yn hyn.

Nodau

  • creu data neu astudiaethau dichonoldeb cychwynnol i bennu hyfywedd prosiect
  • datblygu cysylltiadau rhwng y byd academaidd a byd diwydiant fydd yn gwella dealltwriaeth rhwng y ddau
  • cefnogi cyfnodau preswyl a lleoliadau i gyfnewid sgiliau a gwybodaeth
  • meithrin perthynas waith â rhanddeiliaid drwy weithdai wedi'u hwyluso. Bydd y rhain yn creu prosiectau arloesol ar y cyd fydd yn cadw mewn golwg y gwaith o sicrhau effaith fuddiol i'r ddwy ochr

Cyllid

Yn rhan o Gyfrif Sbarduno Effaith Wedi’i Gysoni (H-IAA) Prifysgol Caerdydd, cynhelir cynlluniau Cynllun Lleoliadau a Secondiadau Cyfnewid Gwybodaeth (KEPS), Cyllid Effaith Strategol (SIF) a Cyllid Dilynol (FoF) yn unol ag IAA yr MRC.

Arweinydd Strategol

Yr Athro Rachel Errington

Yr Athro Rachel Errington

Professor

Email
erringtonrj@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7301

Cysylltu â ni

Impact and Engagement Team