Y Cyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni
Rydyn ni’n buddsoddi mewn prosiectau sy'n gofyn cydweithio’n agos â’r diwydiant, llunwyr polisïau a'r cyhoedd, a hynny er mwyn defnyddio tystiolaeth ymchwil mewn ffyrdd amrywiol ac arloesol.
Mae ein prosiectau'n defnyddio cyllid cyflym a hyblyg i dreialu ymgysylltu cynhwysol ac arloesedd rhyngddisgyblaethol i ysgogi effaith y byd go iawn ar raddfa sylweddol.
Mae Cyfrif Cyflymu Effaith Wedi’i Gysoni (IAA) Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) yn cwmpasu cyllid ar draws chwe Chyngor Ymchwil:
- Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC)
- Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC)
- Y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol (BBSRC)
- Y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC)
- Y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC)
- Y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC)
Ein hamcanion
Mae Prifysgol Caerdydd yn ceisio ysgogi newid go iawn yn y byd drwy ei chyllid IAA. Ein nod yw:
- mynd i'r afael â heriau o bwys drwy weithio’n amlddisgyblaethol ar draws Cyfrifon Cyflymu Effaith UKRI a chanolfannau ymchwil y Brifysgol i ehangu ein hymdrechion
- cynnal gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth, sicrhau effaith a throsi
- sefydlu partneriaethau sy'n arwain at greu effaith ystyrlon ar y cyd ar gyfer cymunedau, sefydliadau a phartneriaid, yng Nghymru a thu hwnt
- cyflymu canlyniadau arloesi mawr mewn partneriaeth â diwydiant, y sector cyhoeddus, sefydliadau elusennol a sefydliadau'r llywodraeth
Cyllid
Rydyn ni wedi cyrraedd y trydydd cam - a’r olaf - yng nghylch cyllido cyfredol y Cyfrif Sbarduno Effaith Wedi’i Gysoni (IAA).
Yn y ddau gam cyntaf roedd galwad cyllido agored a oedd yn cynnwys cronfa gychwyn â chyllid sbarduno i ddatblygu prosiectau newydd ar y cyd yn ogystal â chronfa sbarduno i gryfhau partneriaethau presennol a deilliannau prosiectau.
Mae'r cam presennol yn cymryd dull mwy strategol, gan gynnig tri chynllun sy'n canolbwyntio ar leoliadau a secondiadau, cynlluniau dan arweiniad ysgolion ac ehangu cyn-brosiectau’r Cyfrif:
Cynllun Lleoliadau a Secondiadau Cyfnewid Gwybodaeth (KEPS)
Ar waith: Chwefror 2024 – Mehefin 2025
Nod y Cynllun yw hyrwyddo partneriaethau drwy gyfnewid gwybodaeth, hwyluso cydweithio, datblygu sgiliau a throsglwyddo sgiliau technegol gyda byd diwydiant a phartneriaid eraill.
Cyllid Effaith Strategol (SIF)
Ar waith: Gorffennaf 2024 – Hydref 2024
Mae’r Cyllid yn cefnogi Ysgolion sy’n hyrwyddo arloesi strategol, yn cynyddu ymchwil ryngddisgyblaethol o safon ac yn defnyddio cryfderau Prifysgol Caerdydd i ymateb i flaenoriaethau a chyfleoedd strategol.
Cyllid Dilynol (FoF)
Ar waith: Hydref 2024 – Ionawr 2025
Bydd FoF yn gwella datblygiad prosiectau blaenorol a ariannwyd gan IAA ac yn cryfhau manteision prosiectau yn y tymor hwy i ddatblygu’r cam cyflwyno effaith.
Masnacheiddio’r Gwyddorau Cymdeithasol, y Dyniaethau a’r Celfyddydau er Pobl a’r Economi (SHAPE)
Ar waith: 2024 Hydref 2025 - 25 Mawrth 2021
Mae’n cynnig cyllid sbarduno i gefnogi prosiectau newydd neu rai sy’n bodoli eisoes er mwyn manteisio i’r eithaf ar y potensial o ran effaith gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd a masnacheiddio ymchwil sy’n dod o dan orchwyl gwaith AHRC neu ESRC.