Cyfrif Sbarduno Effaith Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol
Mae Cyfrif Sbarduno Effaith Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) yn helpu i bontio'r bwlch rhwng ein hymchwil a'i hallbynnau.
Mae'r cyfrif hwn bellach yn ariannu prosiectau drwy'r Cyfrif Sbarduno Effaith wedi’i Gysoni.
Mae prosiectau llwyddiannus yn ymgysylltu â'r cyhoedd a byd diwydiant drwy arloesi gyda'r nod o effeithio ar y gymdeithas a'r economi mewn ffyrdd cynaliadwy a chadarn.
Nodau
- hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth a symudiad pobl drwy roi cymorth ar gyfer lleoliadau’r ddwy ffordd ym myd diwydiant, adrannau'r llywodraeth a byrddau iechyd
- cefnogi’r broses o brocera partneriaethau ac ymchwil i'r farchnad er mwyn deall y maes yn well ar y dechrau ac annog defnyddwyr terfynol a busnesau i hwyluso'r gwaith o ddad-beryglu buddsoddiad cyn ymrwymo rhagor o adnoddau neu gyllid
- cefnogi’r gwaith o fasnacheiddio gweithgareddau effaith cam cynnar drwy ddichonoldeb y dechnoleg ac astudiaethau prawf o gysyniad
- cynyddu’r graddau rydyn ni’n ymgysylltu ag ymchwilwyr, gan dargedu ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i'w cynnwys yn agenda effaith
Cyllid
Yn rhan o Gyfrif Sbarduno Effaith Wedi’i Gysoni (H-IAA) Prifysgol Caerdydd, cynhelir cynlluniau Cynllun Lleoliadau a Secondiadau Cyfnewid Gwybodaeth (KEPS), Cyllid Effaith Strategol (SIF) a Cyllid Dilynol (FoF) yn unol ag IAA yr EPSRC.