Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol
Mae ein Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn galluogi ein hymchwilwyr i gael effaith gadarnhaol sy'n gwella canlyniadau i unigolion, yn datblygu cymdeithas, ac yn cryfhau'r economi ledled y DU a thu hwnt.
Rydym yn dyrannu arian i gyflymu effaith ein prosiectau ymchwil trwy bartneriaethau â sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, gan gefnogi secondiadau, digwyddiadau a hyfforddiant. Gellir gweld llwyddiant ein partneriaethau yn y ffaith bod hanner ein prosiectau gorffenedig wedi arwain at waith pellach gyda phartneriaid.
Ers 2018, mae £1.2 miliwn wedi gwella'r nifer sy'n defnyddio ymchwil y gwyddorau cymdeithasol ymhlith ystod o ddefnyddwyr terfynol, gan gynnwys llunwyr polisi a sefydliadau allanol, gan arwain at ganlyniadau megis gwneud penderfyniadau gwell mewn sefyllfaoedd brys gyda Chyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân a llywio diwygio etholiadol yn Senedd Cymru.
Rydym yn cefnogi’r gwaith o gyfleu ein hymchwil i ystod eang ac amrywiol o gymunedau trwy ein Gŵyl Gwyddorau Cymdeithasol flynyddol fel rhan o rwydwaith mawr o bartneriaid IAA ESRC sy'n dathlu gwaith y gwyddorau cymdeithasol ledled y DU.
Nodau
- ymgysylltu â chymuned ymchwil ESRC, a'i chefnogi, i rannu gwybodaeth, arferion da a thechnolegau sy'n deillio o ymchwil y gwyddorau cymdeithasol
- cynorthwyo i sicrhau bod y sector cyhoeddus, y sector preifat, y trydydd sector a/neu gymunedau yn gallu ymgysylltu ag ymchwil gwyddorau cymdeithasol, gan alluogi i effaith gael ei chyflawni'n haws
- nodi a chefnogi cydweithrediadau a phartneriaethau o ansawdd uchel
- ehangu gallu academyddion, myfyrwyr a staff gwasanaethau proffesiynol y gwyddorau cymdeithasol i wneud gwahaniaeth yn y byd
Cyllid
Yn rhan o Gyfrif Sbarduno Effaith Wedi’i Gysoni (H-IAA) Prifysgol Caerdydd, cynhelir cynlluniau Cynllun Lleoliadau a Secondiadau Cyfnewid Gwybodaeth (KEPS), Cyllid Effaith Strategol (SIF) a Cyllid Dilynol (FoF) yn unol ag IAA yr ESRC. Yn ogystal, bydd yr Cyfrif yr ESRC yn cyllido un cynllun yn ychwanegol:
Masnacheiddio Ymchwil yn sgil cyllid y Gwyddorau Cymdeithasol (CRoSS)
Ar waith: Hydref 2024 tan wanwyn 2025
Bydd CroSS yn cynnig cyllid cyfnod cynnar i asesu, pennu a sbarduno potensial trosi a masnachol prosiectau ymchwil newydd neu sy’n bodoli eisoes yng nghylch gwaith ymchwil yr ESRC.