Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol
Nod Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol yw cefnogi dyfodol ffyniannus a chynaliadwy drwy droi ymchwil yn gamau gweithredu a newidiadau ymarferol.
Mae'r cyfrif hwn yn ariannu prosiectau drwy'r Cyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni.
Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu technolegau a systemau y gellir eu defnyddio i gynnal iechyd a lles pobl ac anifeiliaid ac amddiffyn a chwyldroi ein heconomi, ein cymdeithas a'n hamgylchedd.
Nodau
- gyrru'r broses o fasnacheiddio cynnyrch ymchwil cam cynnar drwy gefnogi astudiaethau prawf cysyniad a dichonoldeb technoleg arloesol ar raddfa fach
- prynu arbenigedd i mewn i alluogi ‘methu’n gyflym’ neu bennu peryglon prosiectau a’u datblygu er mwyn gallu eu rhoi a’u waith a’u masnacheiddio
- cefnogi a hwyluso cyfnewid gwybodaeth a datblygu gallu trwy secondiadau tymor byr rhwng cydweithwyr academaidd a darpar ddefnyddwyr terfynol, gan gynnwys partneriaid yn y diwydiant
- cefnogi gwaith datblygu diwylliant drwy gynnig gweithdai cyfnewid gwybodaeth, gan ganolbwyntio'n benodol ar ymgysylltu ag ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa
Cyllid
Yn rhan o Gyfrif Sbarduno Effaith Wedi’i Gysoni (H-IAA) Prifysgol Caerdydd, cynhelir cynlluniau Cynllun Lleoliadau a Secondiadau Cyfnewid Gwybodaeth (KEPS), Cyllid Effaith Strategol (SIF) a Cyllid Dilynol (FoF) yn unol ag IAA yr BBSRC.
Arweinydd Strategol
Yr Athro Helen White-Cooper
Cyfarwyddwr Ymchwil (Arloesi a'r Amgylchedd)