Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrif Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau

Mae prosiectau Cyfrif Cyflymu Effaith (IAA) Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) sy’n cael eu hariannu gan y Brifysgol yn canolbwyntio ar sicrhau dyfodol ffyniannus i gymdeithas a’r economi drwy ymchwil ym meysydd y celfyddydau a’r dyniaethau.

Mae'r cyfrif hwn bellach yn ariannu prosiectau drwy'r Cyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni.

Mae ein prosiectau’n rhoi pwyslais ar bartneriaethau amlddisgyblaethol a chydweithredol. Bydd cyllid ar gyfer prosiectau’n gwella iechyd a lles y byd o'n cwmpas drwy greadigrwydd a yrrir gan werthoedd.

Nodau

  • canolbwyntio ar ddatblygu arloesi yn y celfyddydau a'r dyniaethau drwy ymchwilio’n foesegol ac mewn ffordd ymrwymedig yn ogystal â chydweithio â phartneriaid a chymunedau
  • cefnogi ymchwilwyr i weithio ar flaen y gad o ran heriau cyfoes, gan gyflwyno dysgu o'r gorffennol a dadansoddi'r presennol i ddychmygu dyfodol newydd.
  • cefnogi sefydliadau, cymunedau ac unigolion sy'n canolbwyntio ar gadw asedau diwylliannol a hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol wrth ehangu datblygiad economaidd mewn ardaloedd sydd wedi’u dad-ddiwydiannu, a hynny’n lleol ac yn fyd-eang
  • meithrin a chynnal partneriaethau gan ddefnyddio dulliau creadigol i gefnogi adferiad y sector diwylliannol yn sgil y pandemig.

Cyllid

Yn rhan o Gyfrif Sbarduno Effaith Wedi’i Gysoni (H-IAA) Prifysgol Caerdydd, cynhelir cynlluniau Cynllun Lleoliadau a Secondiadau Cyfnewid Gwybodaeth (KEPS), Cyllid Effaith Strategol (SIF) a Cyllid Dilynol (FoF) yn unol ag IAA yr AHRC. Yn ogystal, bydd yr Cyfrif yr AHRC yn cyllido un cynllun yn ychwanegol:

Cronfa Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau er Masnacheiddio’r Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHCF)

Ar waith: Hydref 2024 tan wanwyn 2025

Mae cyllid AHCF yn sbarduno'r gwaith o drosi a masnacheiddio ymchwil yn y celfyddydau a'r dyniaethau drwy gynnig cyllid sbarduno i sicrhau'r effaith fwyaf posibl, hyrwyddo arloesi ac ysgogi cyfleoedd masnachol.

Arweinydd Strategol

Dr Jenny Kidd

Dr Jenny Kidd

Reader and Director of Postgraduate Research

Email
kiddjc2@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 208 74489

Cysylltu â ni

Impact and Engagement Team