Hafan Cyfrifon Cyflymu Effaith
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein hymchwil yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymdeithas. Mae buddsoddi mewn Cyfrifon Cyflymu Effaith yn ffynhonnell cyllid graidd ar gyfer ein gweithgareddau effaith.
Mae Cyfrifon Cyflymu Effaith (IAAs) UKRI yn cynnig cyllid hyblyg i gefnogi gweithgareddau sy'n helpu i wella'r defnydd o ganfyddiadau ymchwil gan fuddiolwyr a defnyddwyr terfynol, gan gynnwys busnesau, elusennau, y sector cyhoeddus, llunwyr polisi a sefydliadau eraill.
Ein hamcanion
Ein hamcanion yw ariannu prosiectau sydd â'r potensial mwyaf i gyflawni effaith o ymagweddau arloesol a dychmygus tuag at bartneriaeth a chyfnewid gwybodaeth, gan gynnwys:
- ariannu prosiectau sbarduno a chyflymu sy’n cymryd syniadau newydd o ymchwil i'w defnyddio mewn busnes, cymdeithas a bywyd cyhoeddus
- cefnogi newidiadau polisi sy'n llywio sut mae sefydliadau'n addasu ac yn gwella eu gwasanaethau, eu prosesau a'u canlyniadau ar gyfer defnyddwyr a buddiolwyr
- cryfhau rhwydweithiau gyda darpar ddefnyddwyr ymchwil
- galluogi preswyliadau a chyfnewidiadau sy'n caniatáu i bartneriaid ymuno â ni, a lleoliadau lle mae ein staff yn ymuno â sefydliadau allanol dros dro
Cyllid
Mae Prifysgol Caerdydd wedi derbyn dros £13 miliwn o gyllid Cyfrif Cyflymu Effaith UKRI ers 2025. Mae ein set gyfredol o Gyfrifon Cyflymu Effaith wedi’u cysoni UKRI yn cwmpasu cyllid o £6.2 miliwn gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC); y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC); y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC); Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC); y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) a'r Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC).
Cyllid o £13 miliwn
Gan gynnwys £6.2 miliwn mewn dyfarniadau cyfredol.
Dros 450 o brosiectau effaith
Wedi derbyn cefnogaeth ers 2015, gan gynnwys dros 500 o bartneriaethau gyda phartneriaid a chymunedau anacademaidd.
Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
Rydyn ni wedi cefnogi 40 o astudiaethau achos REF2021.
Ein Cyfrifon Cyflymu Effaith
Dysgwch am bob cronfa IAA.