Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiadau

Rydyn ni’n cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau sy'n ymdrin â phynciau arloesedd trwy gydol y flwyddyn academaidd.

Ymhlith y rhain y mae sesiynau gweithdy rhyngweithiol a chyflwyniadau ysbrydoledig. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfleoedd i bobl o'r un meddwl ddod at ei gilydd i drafod syniadau a gwneud cysylltiadau gwerthfawr sydd o fudd i bawb, sy'n aml yn arwain at gyfleoedd i weithio ar y cyd.

Jigsaw pieces

Arloesi: Dull traws-sector

CalendarDydd Mercher 19 Chwefror 2025, 09:00

Digwyddiadau blaenorol

Ymhlith y digwyddiadau rydyn ni wedi cynnal yn y gorffennol y mae digwyddiad panel gyda arbenigwyr yn trafod cyflawni targedau Sero Net a gweithdy rhyngweithiol ar y sefyllfa o ran ariannu arloesedd yng Nghymru.

Arloesi yng Nghymru: y sefyllfa o ran cyllid ar gyfer sefydliadau

Mae'r sefyllfa ariannu yng Nghymru yn un gymysg, gyda chyfuniad o fentrau a rhaglenni cyllido. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun cyflawni o’r enw Cymru’n Arloesi: Creu Cymru Gryfach, Decach, a Gwyrddach. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae amrywiaeth o gyfleoedd buddsoddi a chyllid ar gael i gefnogi sefydliadau.

Mae’r dasg o ymchwilio i gyllid ac ymgeisio am grantiau yn cymryd amser. Gall gwybod pa gyllid sydd orau ar gyfer eich sefydliad fod yn dalcen caled hefyd. 22 Mai 2024, fe wnaethon ni gynnal gweithdy Gwybodaeth am Gyllid Arloesedd, er mwyn helpu sefydliadau i ymgyfarwyddo â'r mentrau cyllido sydd ar gael. Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau gan Dîm Arloesedd Llywodraeth Cymru, Arloesi UKRI, tîm Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth Prifysgol Caerdydd ac astudiaeth achos enghreifftiol gan Menna AI.

Yn dilyn y cyflwyniadau, fe wnaethon ni gynnal sesiwn drafodaeth grŵp ryngweithiol, lle daeth sefydliadau o bob sector ynghyd i drafod heriau parhaus o ran arloesi, cyllid, a chael mynediad at bartneriaid i gydweithio â nhw.

Arloesedd a arweinir gan heriau yng Nghymru: Sesiwn Sbotolau Canolfan Rhagoriaeth Cymru Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI)

Mae Menter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) yn ariannu gwaith ymchwil a datblygu i ddatrysiadau arloesol newydd sy’n mynd i'r afael ag anghenion nad ydyn nhw eisoes yn cael eu diwallu ym maes iechyd, a lle nad oes datrysiad rhwydd i’w gael ar y farchnad. Mae SBRI yn cynnig y cyfle i sefydliadau weithio’n uniongyrchol â’r sector cyhoeddus i ddatblygu technolegau a phrosesau newydd, gan helpu i gyflawni targedau effeithlonrwydd a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r fenter hon yn agored i ba bynnag sefydliad, ni waeth beth fo'i faint na’i brofiad blaenorol o weithio mewn sector penodol.

12 Mawrth 2024, fe wnaethon ni gynnal digwyddiad ar y cyd â Chanolfan Rhagoriaeth Cymru SBRI a roddodd gyfle unigryw i arddangos rhai enghreifftiau o’r gwaith effeithiol sydd wedi cael ei gyflawni ar y cyd â sefydliadau iechyd, gofal cymdeithasol a’r sector cyhoeddus ehangach ledled Cymru.

Wedi’i gadeirio gan yr Athro Rick Delbridge, Athro Dadansoddiad Sefydliadol ym Mhrifysgol Caerdydd a gyda chyflwyniadau gan bartneriaid yn y diwydiant, clinigwyr y GIG, arweinwyr o Lywodraeth Cymru ac arbenigwyr academaidd, fe wnaeth y sesiwn hon gynnig cipolwg traws-sector o botensial trawsnewidiol arloesedd a arweinir gan heriau.

Dangosodd Ibex Analytics eu Hofferyn Diagnostig Patholeg wedi’i gefnogi gan AI sy’n cael ei ddefnyddio mewn chwe bwrdd iechyd yng Nghymru. Mae'r canlyniadau'n dangos gwelliant sylweddol o ran canfod canser, mwy o hyder gan glinigwyr a gostyngiad yn y defnydd o brofion IHC costus. Siaradodd Victoria Mann, Prif Swyddog Gweithredol Near Me Now Ltd a chynigydd SBRI llwyddiannus arall, am ei hanes gyda’r Ganolfan a sut arweiniodd hyn at dwf yn nifer y dyfarniadau contract gan gwmnioedd a'r sector cyhoeddus a enillodd hi.

Dod yn wyrddach gyda'n gilydd: yr ymdrech ar y cyd i gyrraedd Sero Net

Rydyn ni’n wynebu argyfwng yn yr hinsawdd. Mae cyrraedd Sero Net yn ateb y mae’r byd wedi’i gynnig er mwyn arafu newid yn yr hinsawdd. Ym mis Mawrth 2021 cymeradwyodd Senedd Cymru darged sero net ar gyfer 2050. Bydd pawb yng Nghymru yn chwarae eu rhan i leihau allyriadau, ac mae angen i lywodraethau, cymunedau a busnesau gweithio ar y cyd er mwyn ymateb i’r argyfwng newid yn yr hinsawdd. Mae Ymgyrch Addewid Llywodraeth Cymru yn galw ar sefydliadau o bob sector a diwydiant i feddwl am y newidiadau y gall pob un ohonyn nhw eu gwneud, er mwyn adeiladu ar y camau gweithredu ar y cyd a nodir yn Strategaeth Sero Net Cymru.

7 Chwefror 2024, fe wnaethon ni gynnal digwyddiad briffio a rhwydweithio dros frecwast, lle clywodd cynrychiolwyr yn uniongyrchol gan lunwyr polisi, academyddion a’r diwydiant am y cymorth a’r cyfleoedd sydd ar gael i helpu eu sefydliadau i roi mesurau gwyrddach ar waith i gyflawni targedau Sero Net ar y cyd.

Cafodd y digwyddiad ei gadeirio gan yr Athro Jo Patterson, Cyfarwyddwr Ymchwil Ysgol Pensaernïaeth Cymru a rhan o Fwrdd Rheoli Sefydliad Arloesedd Sero Net Prifysgol Caerdydd a gafodd ei sefydlu yn ddiweddar ac ymhlith ein siaradwyr gwadd yr oedd Net Zero Industry Wales, Media Cymru, Nesta, Ernst ac Young LLP, Sefydliad Arloesedd Net Zero Prifysgol Caerdydd, RemakerSpace a Sarah Dickins.