Ymaelodwch
P'un a ydych chi'n fusnes newydd neu'n gorfforaeth sefydledig, gall cymryd rhan yn y rhwydwaith hwn gynnig adnoddau a chyfleoedd gwerthfawr i chi yrru eich sefydliad yn ei flaen.

Mae rhai aelodau’n dod i bob digwyddiad, tra bod eraill yn dod i un digwyddiad y flwyddyn. Mae rhai ohonyn nhw’n dod i rwydweithio yn bennaf, tra bod eraill yn dod i glywed siaradwyr penodol neu i ddysgu rhagor am bwnc.
Mae aelodaeth, yn ogystal â phresenoldeb yn ein digwyddiadau, yn gwbl rhad ac am ddim.
Manteision i aelodau
Mae pawb yn elwa o gyfleoedd y Rhwydwaith Arloesedd i gyfnewid syniadau a rhyngweithio ag eraill.
A chithau’n aelod, bydd y canlynol ar gael ichi:
- rhaglen reolaidd o ddigwyddiadau ar bynciau allweddol sy'n berthnasol i sefydliadau
- e-gylchlythyr sy'n cynnwys newyddion, y wybodaeth ddiweddaraf a manylion digwyddiadau ym maes arloesedd
- mynediad at bobl ac adnoddau i fynd i'r afael â’ch problemau ac asesu eich cyfleoedd
- cyfleoedd i ehangu eich rhwydwaith o gysylltiadau ymhlith sefydliadau sydd oll yn awyddus i dyfu a datblygu
- gwybodaeth am gyllid er mwyn cefnogi cydweithio ac arloesi
Roedden ni’n falch iawn o gymryd rhan yn nigwyddiad y Rhwydwaith Arloesedd yn ddiweddar, a oedd yn canolbwyntio ar y dirwedd ariannu arloesedd yng Nghymru. Roedd y sesiwn yn ddiddorol ac yn ddifyr, gan ddod ag unigolion o wahanol ddiwydiannau ynghyd i ystyried y cyfleoedd sydd ar gael i sicrhau cyllid. Roedd yn wych gweld cymaint o bobl o’r ardal leol yn cael eu cynrychioli. Roedd y gweithdai’n arbennig wedi hwyluso gwneud cysylltiadau ystyrlon â phobl o wahanol sectorau, a chafodd y cyfranogwyr drosolwg gwerthfawr o’r heriau y mae sefydliadau’n eu hwynebu ar hyn o bryd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at fynd i ddigwyddiad arall gan y Rhwydwaith Arloesedd yn fuan.
Sut i ymaelodi gyda'r Rhwydwaith Arloesedd