Y Rhwydwaith Arloesedd
Rydyn ni wedi cyflwyno cannoedd o gwmnïau i’n harbenigedd, gwybodaeth a chyfleusterau drwy ein Rhwydwaith Arloesedd.
Wedi'i sefydlu ym 1996, nod y Rhwydwaith Arloesedd yw datblygu rhwydwaith cryfach o gysylltiadau rhwng sefydliadau ac academyddion, er mwyn creu cyfleoedd ar gyfer cydweithio, arloesi a thwf yng Nghymru.
Cenhadaeth
- darparu cyfleoedd am gysylltiadau rhwng busnesau a rhwng busnesau a’r Brifysgol ar draws disgyblaethau technegol a busnes.
- darparu dulliau y mae modd cymhwyso sgiliau a gwybodaeth Prifysgol Caerdydd i broblemau sefydliadol
- codi ymwybyddiaeth o gefnogaeth ar gyfer arloesi ac arfer da ar gyfer pob sector
Mae gennyn ni dros 2,000 o aelodau sy'n cynrychioli sefydliadau o ystod eang o feintiau a sectorau, yn ogystal ag academyddion. Mae tua 70% o'n haelodau yn fentrau bach a chanolig lleol.
Rydyn ni’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau am ddim drwy gydol y flwyddyn, sy'n trin a thrafod pynciau megis arloesedd, menter ac entrepreneuriaeth. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfle gwych i gysylltu gyda’n harbenigedd a gyda sefydliadau lleol, ac i glywed siaradwyr ysbrydoledig, fydd yn gwneud i chi feddwl.
I gael y newyddion diweddaraf ynghylch cyfleoedd am gyllid ac arweiniad cefnogi busnes, ymaelodwch â ni a dewis cael eich ychwanegu at ein rhestr e-bost.
Mae pawb yn elwa o gyfnewid a rhyngweithio'r Rhwydwaith Arloesi.
Mae gennyn ni raglen reolaidd o ddigwyddiadau a gweithdai ar gampws y Brifysgol sy’n ymdrin â phynciau megis arloesedd, menter ac entrepreneuriaeth.
Digwyddiadau rhwydweithio am ddim i bobl fusnes, academyddion a'r rheini sy'n gweithio ar gyfer sefydliadau cefnogi busnes, megis cynghorau lleol neu Lywodraeth Cymru.