Adeilad Morgannwg
Wedi’i leoli yng nghanol y ganolfan ddinesig, mae Adeilad Morgannwg yn gallu cynnig lleoliad ardderchog ar gyfer ciniawau ffurfiol a chyfarfodydd.
Cyfleusterau
Siambr y Cyngor
- seddau sefydlog ar gyfer 80 o bobl a chyfleusterau clyweledol llawn.
Ystafell Bwyllgor 1
- seddau ar gyfer 75 o bobl mewn arddull theatr neu 40 mewn arddull ystafell fwrdd a chyfleusterau clyweledol llawn
- lle ar gyfer 80 o bobl i eistedd wrth fwyta neu 150 mewn bwffe heb gadeiriau.
Ystafell Bwyllgor 2
- seddau ar gyfer 40 o bobl mewn arddull theatr neu 20 mewn arddull ystafell fwrdd a chyfleusterau clyweledol symudol.
- lle ar gyfer 50 o bobl mewn bwffe heb gadeiriau.
Ystafelloedd seminar/ darlithfeydd
Mae’r adeilad yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau gan gynnwys:
- ystafelloedd darlithio ar gyfer hyd at 102 o bobl.
- Amrywiaeth eang o ystafelloedd seminar i eistedd 16 hyd at 80.
Cysylltwch â ni
Swyddfa Cynhadledd
Manylion am sut i archebu llety preswyl yn ystod misoedd yr haf.