Profiad Gwaith a Lleoliadau
Rydym wedi ymrwymo i roi cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu sy'n gysylltiedig â gwaith. Gall hyn fod ar ffurf cyfnod byr o brofiad gwaith, interniaethau â thâl neu leoliad blwyddyn lawn.
Rydym bob amser yn awyddus i ymgysylltu â chyflogwyr sy'n dymuno recriwtio ein myfyrwyr, ac mae llawer yn dychwelyd i recriwtio bob blwyddyn.
Bydd eich pwynt cyswllt dynodedig yn y tîm yn cynorthwyo gyda phob agwedd ar drefnu interniaeth neu leoliad profiad gwaith. Mae hyn yn cynnwys hysbysebu, rhestr fer, sefydlu cyfweliadau a monitro cynnydd.
Mae gennym rwydwaith o swyddogion lleoliadau'n gweithio mewn ysgolion academaidd i gefnogi myfyrwyr sydd am ymgymryd â blwyddyn mewn lleoliad gwaith yn y diwydiant. Os hoffech wybod rhagor am y cyfle yma, byddwn yn rhoi’r person priodol mewn cysylltiad â chi.
Cysylltu â ni
Tîm Profiad Gwaith
Myfyrwyr gyda sgiliau penodol
Mae pob Ysgol Academaidd yn trefnu eu lleoliadau eu hunain. Er enghraifft mae’r MBA a’r MSc cyrsiau Marchnata Strategol yn paru myfyrwyr â busnesau lleol a chenedlaethol i greu cynlluniau marchnata a busnes.
Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth
Mae'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn bartneriaeth dair ffordd rhwng sefydliad, myfyriwr graddedig a Phrifysgol Caerdydd. Wedi'i hariannu'n rhannol gan y llywodraeth, mae’r cynllun yn rhoi sgiliau academaidd ac arbenigedd i fusnesau sy’n dymuno arloesi, ehangu neu wella eu perfformiad.
Mae'r manteision yn cynnwys:
- cynnydd mewn proffidioldeb a pherfformiad
- mantais cystadleuol
- gwella prosesau
- lleihau costau
Rhagor o wybodaeth am ein partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth
Hyder o ran Gyrfa: Adnabod talent, amrywiaeth a chyfrifoldeb cymdeithasol
Nod Hyder o ran Gyrfa yw lefelu'r cae chwarae ar gyfer myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Gan weithio gyda chyflogwyr, rydym yn cefnogi myfyrwyr i ennill profiad gwaith hyblyg ac wedi'i deilwra.
Byddwch yn geffyl blaen trwy gydweithio gyda'n hacademyddion a defnyddiwch ein cyfleusterau trwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth.