Cyflogwyr yn y cwricwlwm
Cyfoethogi profiad dysgu’r myfyrwyr a'u rhagolygon gyrfaol drwy gydweithio gyda ni i fewnosod gweithgareddau a arweinir gan gyflogwyr o fewn ein cwricwlwm.
Nodweddion y graddedigion
Rydyn ni wedi datblygu set o chwe chategori o sgiliau o’r enw Nodweddion y Graddedigion, y bydd byd diwydiant yn eu gwerthfawrogi a’u chwennych. Mae’r chwe chategori fel a ganlyn:
- cydweithredol
- cyfathrebu'n effeithiol
- ymwybyddiaeth foesegol, gymdeithasol ac amgylcheddol
- meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol
- arloesi, mentro a chael ymwybyddiaeth fasnachol
- adfyfyriol a gwydn
Er mwyn helpu myfyrwyr i ddatblygu'r nodweddion hyn, rydyn ni am gydweithio â chi i gynnwys enghreifftiau yn y byd go iawn, prosiectau ymchwil a chyfleoedd ar gyfer dysgu go iawn o fewn y cwricwlwm. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i gysylltu theori ag ymarfer, gan facsimeiddio’r posibilrwydd o gael eich cyflogi mewn swydd i raddedigion.
Cewch ragor o wybodaeth ynghylch Nodweddion y Graddedigion drwy wylio ein fideo rhagarweiniol:
Cewch ragor o wybodaeth ynghylch Nodweddion y Graddedigion drwy wylio ein fideo rhagarweiniol.
Sut gallwch chi gymryd rhan
Mae cyflogwyr yn rhoi mwyfwy o bwyslais ar flaenoriaethu amrywiaeth yn y gweithle, ac ar ddod o hyd i gyfleoedd amgen i ennyn diddordeb myfyrwyr o fewn eu sector neu sefydliad. Mae gennym ni amryw o gyfleoedd i ymgysylltu â chyflogwyr i’ch cyflwyno chi i gyflogwr delfrydol. Bydd cydweithio o’r fath o gymorth mawr i fyfyrwyr wrth iddyn nhw baratoi at bontio i’r byd gwaith.
Mae ein myfyrwyr yn awyddus i ddeall eich safbwynt ar y canlynol: llwybrau gyrfaol gwahanol, yr wybodaeth a’r sgiliau sy'n benodol i'r byd diwydiant, yn ogystal â’r tueddiadau a’r heriau sy'n dod i'r amlwg mewn gwahanol sectorau.
Ymhlith ein mentrau dichonadwy y mae:
- dysgu seiliedig ar waith
- interniaethau a lleoliadau gwaith
- gweithio gyda myfyrwyr ar brosiectau busnes
- cynnig astudiaethau achos
- siaradwyr gwadd
- mentoriaid
- cyfnewid gwybodaeth
- prosiectau ymgynghori
- blas ar Fyd Gwaith
Cewch hyd i ragor o wybodaeth
I gael gwybod rhagor am sut y gallwch chi integreiddio gweithgareddau a arweinir gan gyflogwyr i’r cwricwlwm, cysylltwch â'r Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr.